Mae cynhyrchiad diweddaraf Theatr Iolo yn cynnig drama yn y Gymraeg sy’n dra gwahanol i’r arfer.

Mae Pen-blwydd Poenus Pete yn cynnig cyfle i deuluoedd Cymraeg eu hiaith a theuluoedd sy’n dysgu Cymraeg rannu trip hwyliog i’r theatr gyda’i gilydd.

Mae’r gomedi deuluol wedi cael ei hysgrifennu gan Gary Owen, a ddysgodd Gymraeg dros ugain mlynedd yn ôl.

Mae’r cyfarwyddwr Kevin Lewis, yn dysgu Cymraeg ac mae’r prif gymeriad, sydd hefyd yn ddysgwr, yn cael ei bortreadu gan Richard Nichols, sydd ei hun yn ddysgwr.

Mae’r ddrama yn adrodd hanes tad sydd yn dathlu ei ben-blwydd ddiwrnod wedi pen-blwydd ei ddau blentyn, ond yn mynd yn flin pan nad oes neb yn ei sbwylio ar ei ddiwrnod arbennig.

Hanner awr cyn y perfformiad fe fydd gweithgareddau i deuluoedd sydd wedi’u cynllunio’n arbennig i ehangu dealltwriaeth o eirfa a stori’r sioe.

Cymorth i ddysgwyr

Dywedodd y Cyfarwyddwr, Kevin Lewis: “Rwyf wedi cyfarwyddo nifer o sioeau yn y Gymraeg a llawer mwy yn Saesneg. Mae nifer o gyfarwyddwyr yn gweithio ar gynyrchiadau ledled y byd sydd ddim o reidrwydd yn ei iaith naturiol ond hwn fydd fy nhaith gyntaf yn y Gymraeg.

“Rwyf wedi bod i weld cynyrchiadau yn ieithoedd nad wyf yn deall ond os yw safon yr actio yn dda mae’n bosib deall yr hyn sy’n digwydd a’r berthynas rhwng y cymeriadau. Y peth pwysicaf yw bod y sioe yn diddanu pawb ac yn noson hwylus.

“Mae yna ailddweud o ddywediadau yn ystod y sioe a defnydd o ‘Wenglish’, ond fe fyddwn yn cynnig crynodeb o’r cynhyrchiad a geiriau allweddol yn y Gymraeg fel cymorth i unrhyw ddysgwyr yn y gynulleidfa. Mae gwylio’r ymarferion wedi gwella fy Nghymraeg yn barod ac mae’r cast a’r criw wedi bod yn gefnogol tu hwnt.”

Dywedodd, Gary Owen, awdur adnabyddus y ddrama: “Wnes i ddysgu Cymraeg dros ugain mlynedd yn ôl nawr ac roeddwn i am ychwanegu’r elfen o ddynamig teuluol yn y ddrama gan greu cymeriad sydd yn ddysgwr.

“Mae elfen comedi yn y sefyllfa o’r math yn amlwg a llawer ohono o fy mhrofiad personol. Erbyn hyn mae nifer o blant sy’n siarad Cymraeg gyda rhieni sydd ddim o reidrwydd yn siarad yr iaith neu sy’n dysgu ond rwy’n gobeithio y byddan nhw’n dod i weld y ddrama a gweld rhywbeth o’u hun ar lwyfan!”

7-12 Gorffennaf Chapter, Caerdydd (Perfformiadau Ysgolion a Chyhoeddus ar 10, 11 & 12 Gorffennaf am 6.30yh). Swyddfa docynnau: 029 20 304400

4/5 Awst – Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Perfformiad cyhoeddus) Theatr y Maes 12pm