Dyw mwyafrif llethol cyrff rheoli chwaraeon Cymru ddim yn defnyddio’r Gymraeg ar-lein, yn ôl ymchwil newydd gan raglen Hacio.
O’r 20 corff rheoli chwaraeon sy’n derbyn y symiau mwyaf o arian cyhoeddus, dim ond tri o’r rheiny oedd wedi defnyddio’r Gymraeg tra’n trydar. Roedd un o’r cyrff rheoli chwaraeon heb gyfrif trydar, tra bod yr 16 arall i gyd yn trydar yn uniaith Saesneg.
Mewn rhifyn arbennig o Hacio heno, yn ystod Wythnos Arloesi Digidol S4C, fe fydd y rhaglen materion cyfoes i bobol ifanc yn edrych ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar ddewis iaith pobol wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Yn ôl Dr Cynog Prys, darlithydd cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor ac awdur astudiaeth ddiweddar mewn defnyddio’r Gymraeg ym mywyd bob dydd, mae’r canfyddiadau yn sioc.
“Mae’r ffaith nad ydyn nhw’n trydar yn Gymraeg yn rhoi’r argraff mai Saesneg ydy iaith chwaraeon yng Nghymru,” meddai.
Mae hefyd yn dweud fod dewis iaith trydarwyr fel cyrff chwaraeon yn cael effaith pellgyrhaeddol ar sgyrsiau ar-lein.
“Mae pobol yn tueddu i ymateb i negeseuon yn yr iaith roedd y neges wreiddiol wedi ei ysgrifennu,” meddai.
Mae ei bryderon yn adleisio cwynion cyson ar-lein yn beirniadu cyrff chwaraeon cenedlaethol, fel Undeb Rygbi Cymru, am beidio defnyddio’r Gymraeg ar-lein.
Ond mae Undeb Rygbi Cymru yn un o nifer o gyrff rheoli chwaraeon sy’n derbyn arian cyhoeddus sy’n trydar yn uniaith Saesneg.
‘Prin yw’r ymateb i’r Gymraeg’
Undeb Rygbi Cymru sydd â’r cyrhaeddiad mwyaf ar Twitter o’r holl gyrff rheoli chwaraeon, gyda 139,000 o ddilynwyr. Fe wnaethon nhw dderbyn £410,000 o arian cyhoeddus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru nad oedden nhw’n derbyn “unrhyw arian allanol er mwyn hyrwyddo neu ymwneud â’r iaith Gymraeg.” Er hynny, dywedodd y llefarydd fod ganddyn nhw “gysylltiad balch â’r iaith Gymraeg” a’u bod yn “llwyddo i greu ystod eang o gynnyrch dwyieithog wedi ei ariannu’n gyfan gwbl o’u hincwm eu hunain.”
Y corff sy’n derbyn y swm mwyaf o arian cyhoeddus yw Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru, wnaeth dderbyn £1,032,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. O’u 100 trydariad diwethaf, doedd dim un yn Gymraeg.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Bêl-Droed, prin iawn yw’r ymateb pan maen nhw wedi trydar yn y Gymraeg yn y gorffennol, felly er mwyn “gwneud y mwyaf o’n negeseuon rydyn ni wedi canolbwyntio ar y Saesneg.” Ond, maen nhw’n ychwanegu, “pan fod pobol wedi cysylltu yn Gymraeg, rydyn ni wedi ymateb yn Gymraeg.”
Dim ond tri yn trydar yn Gymraeg
O’r 19 corff oedd â chyfrifon Twitter, dim ond tri oedd wedi trydar yn Gymraeg yn ystod eu 100 trydariad diwethaf. Roedd Beicio Cymru wedi trydar yn Gymraeg naw gwaith, tra bod Hwylio Cymru wedi trydar pum gwaith yn Gymraeg, a Hoci Cymru wedi defnyddio’r Gymraeg unwaith.
Mewn ymateb, dywedodd Hoci Cymru eu bod nhw’n “edrych dros amser am wahanol bynciau a grwpiau targed wrth benderfynu sut rydyn ni’n cyfathrebu a beth sy’n cael ei dargedu yn Gymraeg,” ond eu bod nhw’n “ymroddedig i ddefnydd ymarferol a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.”
Dywedodd Hwylio Cymru fod eu defnydd o’r Gymraeg ar eu cyfryngau cymdeithasol “wedi cynyddu ers llynedd.” Wrth esbonio bod aelodau staff oedd yn rhugl eu Cymraeg yn ddi-hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn ysgrifenedig, dywedodd Hwylio Cymru fod y sefyllfa “yn gwella, a bydd y defnydd o’r Gymraeg wrth drydar yn cynyddu dros y misoedd nesaf.”
Wrth ymateb i ganfyddiadau Hacio, dywedodd Cymdeithas Chwaraeon Cymru, sy’n cynrychioli’r Cyrff Rheoli Chwaraeon, eu bod wedi gwneud “gwaith cadarnhaol iawn gyda chefnogaeth swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, gan edrych ar sut y gallant wella eu darpariaeth Gymraeg, o ystyried eu gwahanol lefelau o adnoddau.”
Heno fe fydd Hacio hefyd yn edrych ar ba mor hapus yw pobol Cymru gyda’u cysylltiad band llydan – gyda phôl piniwn ar-lein yn gofyn eu barn am gyflymdra band llydan yn eu hardal nhw: http://s4c.co.uk/hacio
Bydd criw Hacio hefyd yn cynnal trafodaeth fyw ar Twitter ar @Hacio cyn, yn ystod ac ar ôl y rhaglen heno, yn gofyn barn y gwylwyr am y pynciau dan sylw.
Hacio, 9.30pm heno ar S4C.