Cheeki Rafiki
Mae gweddillion wedi cael eu darganfod yng Nghefnfor Iwerydd yn yr ardal lle aeth llong hwylio o Brydain i drafferthion, yn ol adroddiadau.
Mae capten llong hwylio sy’n cymryd rhan yn y chwilio wedi dweud wrth y BBC bod y wybodaeth ynglŷn â’r gweddillion wedi cael eu trosglwyddo i wylwyr y glannau yn yr Unol Daleithiau.
Roedd y Cheeki Rafiki yn hwylio nôl i’r DU ar ôl cymryd rhan mewn ras yn Antigua pan aeth i drafferthion a dechrau suddo 620 o filltiroedd i’r dwyrain o Cape Cod ddydd Iau diwethaf.
Nid yw’r pedwar aelod o’r criw – Andrew Bridge, 22, James Male, 23, Steve Warren, 52, a Paul Goslin, 56, wedi cael eu gweld ers oriau man bore dydd Gwener.
Daeth y chwilio am yr hwylwyr i ben 48 awr yn ddiweddarach ond yn dilyn pwysau gan 200,000 o bobl ar ddeiseb ar-lein fe ail-ddechreuodd y chwilio.