Cymru Fyw
Mae newyddiadurwr y BBC, Huw Edwards wedi dweud bod gwasanaeth ar-lein newydd BBC Cymru Fyw yr un mor bwysig â Radio Cymru ac S4C.
Yn dilyn lansio’r gwasanaeth ar-lein newydd, mae’r newyddiadurwr blaenllaw wedi dweud bod y gwasanaeth yn “garreg filltir hanesyddol i’r Gymraeg”.
Gwnaeth y sylw mewn erthygl sydd wedi cael ei chyhoeddi ar y wefan heddiw.
Dywedodd: “Cofiaf yn glir achlysur lansio Radio Cymru ym 1977, ac ymddangosiad gorfoleddus S4C ym 1982, sef dwy garreg filltir enfawr yn hanes yr iaith.
“Gellir dadlau bod cyhoeddi Cymru Fyw yr un mor bwysig â’r digwyddiadau mawr hynny.
“Y mae cynnig gwasanaeth cynhwysfawr ar y we yn hanfodol, sef cyfrwng i gasglu ffynonellau newyddion amrywiol a chyfeirio defnyddwyr at ddeunydd diddorol.”
‘Unigryw a chyfredol’
Mae Cymru Fyw yn cynnig ffrwd fyw o newyddion drwy gydol y dydd, ac yn cysylltu i wefannau newyddion Saesneg a Chymraeg, gan gynnwys Wales Online, ITV a Golwg360.
Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng 8yb a 6yp o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn rhoi sylw i drafodaethau am newyddion ar wefannau cymdeithasol.
Dywedodd Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd: “Mi yden ni yn gobeithio y bydd gwasanaeth newydd Cymru Fyw yn apelio at Gymry Cymraeg o bob oed ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, gan gynnig gwasanaeth sydd yn unigryw ac yn gyfredol.
“Mae’n allweddol bwysig bod y gwasanaeth ar gael ar bob teclyn ac yn hawdd i’w ddefnyddio a’r bwriad ydi denu mwy o bobl i ddefnyddio, nid yn unig gwefan Cymru Fyw, ond yr holl gynnwys arall safonol a difyr sydd ar gael yn y Gymraeg.”
‘Llwyfan arall’
Wrth ymateb i sylwadau Huw Edwards, dywedodd Prif Weithredwr Golwg360, Owain Schiavone: “Mae unrhyw wasanaeth sy’n hybu ac yn tynnu sylw at gynnwys Cymraeg yn ddatblygiad cadarnhaol.
“Fel y prif ddarparwr newyddion Cymraeg digidol, mae Golwg360 yn croesawu llwyfan arall ar gyfer ein cynnwys.
“Mae Cymru Fyw yn efelychu’r hyn mae’r BBC yn ei wneud mewn rhanbarthau eraill ym Mhrydain a bydd hi’n ddiddorol gweld pa mor llwyddiannus fydd y fformat.”