Mae 160 o wartheg ar fferm yn Sir Gâr wedi marw ar ôl iddyn nhw gael eu heintio â’r fotwliaeth, yn ôl pob tebyg.

Yn ôl adroddiadau, cawson nhw eu heintio gan silwair oherwydd fod rhannau o gyrff anifeiliaid wedi pydru yn bresennol yn eu bwyd.

Mae lle i gredu bod y ffermwr wedi torri’r silwair ym mis Ebrill ac wedi’i roi i’r anifeiliaid dair wythnos yn ddiweddarach.

Mae’r silwair bellach wedi cael ei gludo oddi ar y fferm ac mae’r ffermwr wedi dechrau ychwanegu at ei wartheg unwaith eto.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA) eu bod nhw wedi dechrau cynnal ymchwiliad.

Mae tua 20 o achosion o’r fotwliaeth yn cael eu cofnodi yn y DU bob blwyddyn.

Ond mae’n debygol fod gwir nifer yr achosion lawer iawn uwch gan ei bod yn anodd canfod olion o’r salwch mewn gwartheg.

Dywedodd llefarydd yr AHVLA fod y salwch hefyd yn bresennol mewn defaid a’i fod yn cael ei achosi wrth i anifeiliaid ddod i gyswllt â ieir.

Rhybuddiodd ffermwyr i gadw sbwriel yn ddiogel ac i ffwrdd oddi wrth dda byw a thu hwnt i anifeiliaid ysglyfaethus sydd yn debygol o chwilio am fwyd.