Y Tywysog Charles
Mae’r tywysog Charles ynghanol ffrae wleidyddol ar ôl i ddynes honni ei fod wedi cymharu Vladimir Putin ac Adolf Hitler.

Mae sylw’r tywysog wedi hollti barn ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gydag un ochr yn dweud fod ganddo’r hawl i leisio ei farn a’r naill yn galw arno i ildio’i hawl i’r goron.

Fe ddechreuodd y ffrae ar ôl i’r tywysog ddweud, mewn sgwrs gyda’r gweithiwr amgueddfa Marienne Ferguson, 78, yng Nghanada, fod gweithredoedd Putin yn yr Wcrain yn debyg i rai Hitler yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Wrth i’r ddau drafod sut y bu i Marienne Ferguson a’i theulu ffoi rhag y Natsïaid o Wlad Pwyl i Ganada yn 1939, dywedodd y tywysog: “A rŵan mae Putin yn gwneud bron yr un peth a Hitler.”

Hollti barn

Mae Dirprwy Brif Weinidog Prydain, Nick Clegg, ac Arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi cefnogi sylw’r tywysog gan ddweud fod nifer o Brydeinwyr yn rhannu’r un farn a Charles am weithredoedd  Putin yn yr Wcráin.

Ond mae’r sylw wedi annog yr AS Llafur Mike Gapes i ddweud y “dylai Charles ildio’i hawl i’r goron” os ydyw am drafod materion gwleidyddol.

Mae David Cameron wedi gwrthod gwneud sylw ar y sgwrs breifat ond mae’n dweud fod gan bawb hawl i leisio barn bersonol.

Mae Charles ynghanol taith i Ganada a bydd yn cwrdd â Vladimir Putin ym mis Mehefin, mewn digwyddiad i nodi 70 mlynedd ers ymosodiad D-Day yn Normandi.