Rolf Harris
Mae dynes sy’n rhoi tystiolaeth yn achos llys y cyflwynydd teledu Rolf Harris wedi dweud ei bod hi wedi rhoi’r dyddiad anghywir ar gyfer ymosodiad honedig.
Dywedodd Tonya Lee, 43, sydd wedi gwrthod yr hawl i aros yn ddienw, fod Harris wedi ymosod arni mewn tafarn yn Llundain ar ddechrau taith cwmni theatr pan oedd hi’n 15 oed.
Ond tra’n cael ei chroesholi yn Llys y Goron Southwark yn Llundain heddiw, cyfaddefodd fod tystiolaeth yn profi nad oedd hi wedi cyfarfod â Harris tan ddiwedd y daith.
Yn ôl yr amddiffyniad, nid oedd unrhyw gyswllt corfforol rhwng y ddau ar unrhyw adeg.
Heddiw, dywedodd Tonya Lee wrth y llys nad yw hi’n un da am gofio dyddiadau ac nad oedd hi wedi cadw cofnod o’r dyddiadau pan ddigwyddodd yr ymosodiadau honedig am nad oedd hi am gael ei hatgoffa ohonyn nhw.
Ond mi ddywedodd ei bod hi’n cofio’r achlysuron yn glir.
Breuddwyd wedi chwalu
Dywedodd wrth y llys ddoe fod Harris wedi cwrdd â’r perfformwyr o gwmni theatr ieuenctid Shopfront ym maes awyr Heathrow ac wedi mynd â nhw i dafarn am bryd o fwyd.
Ychwanegodd ei bod wedi rhoi’r gorau i’w breuddwyd o ddod yn actores yn dilyn yr ymosodiadau honedig.
Cyfaddefodd Tonya Lee hefyd ei bod hi’n anghywir am yr union adeg y collodd hi bwysau yn ystod y daith yn 1986.
Dywedodd wrth y llys ddoe ei bod hi wedi colli rhwng naw a 13 pwys ar ôl iddi stopio bwyta yn dilyn yr ymosodiadau honedig.
Ond heddiw, dywedodd yr amddiffyniad mai chwe diwrnod yn unig oedd rhwng cyfarfod â Rolf Harris a’r diwrnod y sylweddolodd hi ei bod hi’n colli pwysau.
Mae’n gwadu’r honiadau hefyd fod ei anhwylderau bwyta wedi dechrau cyn iddi gyfarfod â’r cyflwynydd.
Alcoholiaeth
Mae Harris, sy’n 84 oed, yn gwadu 12 cyhuddiad o ymosod yn anweddus rhwng 1968 a 1986 ac mae tri o’r cyhuddiadau’n ymwneud â Tonya Lee.
Clywodd y llys bod Tonya Lee wedi cael ei cham-drin pan oedd yn blentyn ac yn dioddef o alcoholiaeth am nifer o flynyddoedd, a’i bod hi’n “ddiolchgar” am y cyfle i roi tystiolaeth i’r llys.
Dywedodd: “Mae’n cymryd pobol fel fi i siarad yn gyhoeddus i enwi pobol a helpu pobol sydd wedi dioddef, i roi nerth i eraill.”
Mae’r achos yn parhau.