Poster Narendra Modi yn ystod yr etholiad
Mae grŵp o eithafwyr Moslemaidd wedi galw am ymosodiad ar India yn dilyn ethol Narendra Modi yn Brif Weinidog y wlad.

Cafodd fideo ei gyhoeddi ar y we gan y grŵp sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig ag al-Qaida o fewn 24 awr o gyhoeddi mai Modi oedd wedi ennill yr etholiad cyffredinol.

Cyn i ganlyniadau’r etholiad gael eu cyhoeddi, rhybuddiodd heddlu gwrthderfysgaeth y byddai’r bygythiad o ymosodiadau terfysgol yn cynyddu pe bai Modi yn ennill yr etholiad.

Mae rhai yn canmol Modi am fod yn brif weinidog cryf ar dalaith Gujarat ers 2001, a’i throi’n un o brif bwerau economaidd y genedl erbyn hyn.

Ond yn ôl eraill, roedd wedi methu ag atal cyflafan yn 2001 pan gafodd 1,000 o bobol – Moslemiaid yn bennaf – eu lladd yn ystod terfysgoedd ffyrnig.

Ymhlith y rhai fu’n ei feirniadu mae’r teulu Nehru-Gandhi o Blaid y Gyngres, sydd wedi bod mewn grym am y rhan fwyaf o’r cyfnod ers i India ennill annibyniaeth yn 1947.

Fe lwyddodd Modi, sydd bellach yn arweinydd y BJP [Bharatiya Janata Party] er gwaetha’r gyflafan, i ennyn cryn dipyn o gefnogaeth gan Foslemiaid, ac mae’n anelu at wella perthynas India â Phacistan.

Mae Modi wedi gwahodd Prif Weinidog Pacistan, Nawaz Sharif i’w seremoni urddo ddydd Llun nesaf.

‘Angen Modi ar India’

Yn dilyn yr etholiad yr wythnos diwethaf, dywedodd cefnogwr y BJP wrth Golwg360 fod angen Modi ar India.

Yn ôl Dr Ruchika Julka, cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Abertawe sy’n enedigol o Delhi Newydd, y ffaith fod Modi yn ennyn trafodaeth ddemocrataidd yng nghartrefi’r bobol gyffredin yn India sy’n ei wneud yn Brif Weinidog addas a theilwng.

Dywedodd wrth Golwg360: “Dwi’n dod o deulu o gefnogwyr y BJP ac felly rwy wedi bod yn gobeithio am hyn ers y diwrnod y cafodd Shri Narendra Modi ei gyhoeddi’n ymgeisydd y blaid i fod yn Brif Weinidog.

“Ces i fy argyhoeddi yn ystod dau ymweliad â Gujarat fod angen Narendra Modi ar India.”

“Mae rhai sy’n dweud mai hwn yw’r etholiad mwyaf chwerw erioed, mae rhai sy’n dweud ei fod wedi polareiddio barn – wn i ddim am hynny.

“Y dadleuon ar y teledu wnaeth goroni’r cyfan – yn llawn bwrlwm a chyhuddiadau ac ymatebion yn hedfan i bob cyfeiriad.

“Wnaeth hynny, wrth gwrs, arwain at drafodaethau yng nghartrefi pobol ac ar adegau, ‘dharnas’ [ymprydio tros gyfiawnder] y tu allan i swyddfeydd y pleidiau.

‘Gŵyl fawr ddemocrataidd’

“Yr hyn welais i oedd ei fod yn ‘Loktantra ka Mahotsav’ – gŵyl fawr ddemocrataidd.

“Roedd yn wych cael gweld fod y broses ddemocrataidd yn ddim llai na gŵyl yn India.

“Roedd baneri a phosteri enfawr, swyddfeydd y pleidiau wedi’u haddurno, cerddoriaeth a dawnsio, gorymdeithiau, hysbysebion ar y teledu ar gyfer pob math o gynnyrch o sebon i feiciau modur yn annog pobol i bleidleisio – a hyd yn oed ambell ffilm Bollywood a chanddyn nhw thema wleidyddol wedi’u rhyddhau yn ystod pum wythnos yr etholiad.”

Teimladau cymysg

Er ei bod yn amlwg wrth ei bodd â’r canlyniad, roedd y profiad o gael pleidleisio yn yr etholiad yn un cymysg i Dr Julka, sy’n byw a gweithio yn Sheffield ers 2007 pan adawodd Abertawe ar ôl cwblhau ei hastudiaethau PhD.

Mae hi wedi penderfynu ildio’i statws fel dinesydd India a cheisio am ddinasyddiaeth Brydeinig.

“Fe ges i weld y cyffro ynghylch yr etholiad a phleidleisio am y tro cyntaf ac, efallai, am y tro olaf, yn etholiad India.

“I fi, ni allai canlyniad yr etholiad fod wedi bod yn well.”

Stori: Alun Rhys Chivers