Richard Harrington yn Y Gwyll/Hinterland
Fe fydd gwylwyr yn Awstralia, Gwlad yr Iâ, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Ffrainc, Yr Almaen a Seland Newydd yn gallu gwylio cyfres dditectif Y Gwyll ar ôl i S4C werthu’r hawliau i ddarlledu’r gyfres.
Cyhoeddodd S4C heddiw y bydd dwy fersiwn o’r DVD hefyd yn cael eu rhyddhau; fersiwn Gymraeg wreiddiol S4C, a’r fersiwn ddwyieithog a ddarlledwyd ar BBC One Wales a BBC Four eleni.
Bydd gwylwyr yn Llydaw ac yng Ngwlad Belg yn cael mwynhau’r fersiwn Gymraeg wreiddiol ar sianel leol Ffrainc DIZALE ac ar VRT yng Ngwlad Belg – i nodi dechrau Tymor Trosedd y sianel yr haf hwn.
‘Newyddion gwych i Gymru’
Yn ôl Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, mae’r cyhoeddiad yn “newyddion gwych i’r gyfres ac i Gymru.”
“Bydd y cytundebau sydd wedi eu cadarnhau gan All3Media International yn golygu bod y gyfres ar gael i gynulleidfaoedd yn rhai o’r tiriogaethau teledu mwyaf yn y byd,” meddai.
“Mae allforio Y Gwyll/Hinterland eisoes wedi bod yn llwyddiannus a gydag ail gyfres ar y gweill rydym yn hyderus y bydd DCI Mathias a’i dîm yn siŵr o greu rhagor o lwyddiant yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Ed Thomas, Uwch Gynhyrchydd yng nghwmni Fiction Factory: “Mae’r cytundebau newydd hyn yn rhoi llwyfan rhyngwladol i straeon a thirwedd Y Gwyll/Hinterland, ac yn gyfle i ddangos bod modd i’r lleol apelio yn eang.”