Mae chwech o bobol ifanc o Iran wedi cael eu harestio am gyhoeddi fideo ohonyn nhw’n dawnsio i’r gan ‘Happy’ gan yr Americanwr Pharrell Williams.

Yn ôl adroddiadau, mae awdurdodau yn Iran yn gweld y weithred fel rhywbeth sy’n hybu’r diwylliant Gorllewinol.

Mae tair merch i’w gweld yn dawnsio yn y fideo ond nid oes gan ferched y wlad Islamaidd hawl i ddawnsio yn gyhoeddus neu ymddangos heb y wisg hijab.

Ar deledu lleol yn Iran, cafodd rhannau o’r fideo ei ddangos yn ogystal â llun o’r chwech o bobol ifanc gyda’u cefnau tuag at y camera.

Dywedodd Pharrell Williams ar ei gyfrif trydar: “Mae hi’n fwy na thrist fod y plant yma wedi cael eu harestio am geisio lledaenu hapusrwydd.”

Mae dros 100,000 eisoes wedi gwylio’r fideo gan y chwech o Iran, gafodd ei bostio ar YouTube deuddydd yn ôl: