Colin Firth a Taron Egerton yn Kingsman: The Secret Service
Bydd actor ifanc o Aberystwyth yn cael y cyfle i serennu ochr yn ochr ag enwogion megis Colin Firth, Samuel L Jackson a Michael Caine mewn ffilm ysbïo newydd fydd i’w gweld ym mis Hydref.
Y Cymro Taron Egerton sydd yn actio rôl un o brif gymeriadau’r ffilm “Kingsman: The Secret Service”, yr ysbïwr ifanc Gary Unwin, neu Eggsy, sydd yn cael ei recriwtio gan asiantaeth gudd.
Cymeriad Firth, Uncle Jack, sydd yn cymryd Eggsy o dan ei aden gan arwain y cymeriad ifanc disglair i ffwrdd o droseddau stryd ac i mewn i’w hacademi hyfforddi ysbiwyr.
Mae’n ymddangos bod mwy nag ychydig o hiwmor yn y ffilm wrth i gymeriad Egerton ddechrau ymgyfarwyddo’i hun â’r byd ysbïo a phrofi’n dipyn o her i gymeriad Firth – gallwch wylio trailer cyntaf y ffilm yma:
Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Egerton bellach yn byw yn Llundain ar ôl graddio o’r Academi Frenhinol Celf Ddramatig (RADA) yn 2012.
Cyn cael ei ddewis i chwarae rhan Eggsy yn ffilm fawr 20th Century Fox bu’n actio cymeriad Dennis Severs ar gyfres Sky1, The Smoke, yn ogystal ag ymddangos yn nrama dditectif ITV Inspector Lewis.
Matthew Vaughn, cyfarwyddwr Kick Ass ac X-Men: First Class, yw’r gŵr sydd wedi bod yn gyfrifol am The Secret Service, sydd hefyd yn cynnwys yr actorion adnabyddus Sofia Boutella, Sophie Cookson a Jack Davenport.
Yn ôl adroddiadau fe drodd Vaughn lawr y cyfle i weithio ar y ffilm X-Men newydd, Days of Future Past, er mwyn gweithio ar y ffilm gyda Jane Goldman a Mark Miller.