Cantorion teyrnged Elvis Presley
Hannah Roberts sydd yn amddiffyn cornel y bandiau a chantorion teyrnged …
Bandiau teyrnged. Carwch nhw neu beidio, maen nhw’n cyfrannu’n enfawr at y byd cerddoriaeth, ac weithiau maen nhw’n gallu bod yn well na’r band gwreiddiol hyd yn oed.
Wrth gwrs, mae gwahaniaeth rhwng grwpiau sy’n gwneud covers yn hytrach na grwpiau sy’n dynwared bandiau a fu.
Er bod bandiau teyrnged yn gwneud covers, maen nhw’n ceisio portreadu bob agwedd y band gwreiddiol, hynny yw golwg, gweithrediadau, agwedd a phersonoliaeth y grŵp gwreiddiol.
Felly, i’r ffans craidd caled, maen nhw’n gyfrifol am etifeddiaeth y grŵp wrth iddynt dalu gwrogaeth. Mae’n amlwg bod nifer ohonyn nhw’n chwarae â geiriau i greu enwau creadigol sy’n cyfeirio yn amlwg at y band gwreiddiol, fel Antarctic Monkeys, By Jovi, Earth, Wind for Hire, The Food Fighters … mae’r rhestr yn mynd am byth.
Y Brenin ym Mhorthcawl
Rhywsut, mae is-ddiwylliant wedi datblygu o gwmpas y bandiau hyn. Mae pobl yn dod at ei gilydd i ddathlu cerddoriaeth eu hoff fandiau a thrwy chwarae eu cerddoriaeth mae syniad o grwpiau teyrnged wedi dod yn rhan bwysig, yn enwedig yn nhirwedd cerddoriaeth roc.
Fel arfer, nid yw aelodau’r grŵp yn rhan o’r grŵp gwreiddiol. Er hynny, mae nifer o grwpiau go iawn, er enghraifft Journey, Yes a Judas Priest wedi dod o hyd i aelodau newydd i gymryd lle aelodau allweddol.
Mae bandiau ac artistiaid teyrnged yn boblogaidd iawn, yn enwedig y rhai sydd yn dynwared pobl sydd bellach ddim yn fyw. Nid yw’n syndod i wybod bod Elvis ar ben y rhestr, ac yng Nghymru rydym ni’n gyfarwydd â’r dylifiad o bobl sy’n dathlu’r ‘Brenin’.
Pob mis Medi mae miloedd o bobl yn dod i Borthcawl (eleni yw’r unfed flwyddyn ar ddeg) i ddathlu gŵyl o Elvisiaid.
Mae’r digwyddiad hwn yn un o’r mwyaf yn Ewrop – heb yr artistiaid hyn ni fyddai gŵyl Elvis ym Mhorthcawl o gwbl, na’r Elvies sef sioe wobrau am artistiaid teyrnged Elvis. Os hoffech chi gymryd rhan mae cystadlaethau ar agor i artistiaid proffesiynol a lled-broffesiynol!
Gwell na’r gwreiddiol?
Os ydych chi’n pendroni pam y byddai rhywun yn mynd i weld band neu artist teyrnged, mae sawl ateb. Wrth gwrs, os yw rhywun wedi marw, nid yw’n bosib eu gweld nhw yn fyw rhagor.
Hefyd, fel arfer, mae tocynnau yn rhatach ac felly mae ffans yn cael blas ar gerddoriaeth heb dalu gormod neu orfod bwyta dim ond ffa am weddill y flwyddyn o ganlyniad.
Weithiau mae’r grwpiau hyn yn gallu bod yn well na’r grŵp gwreiddiol wrth iddynt gael gafael ar gyfnod gorau’r grŵp gwreiddiol.
Credwch neu beidio mae rhai pobl yn dwli ar fynd i weld bandiau teyrnged – mae nifer o flogiau a thudalennau gwefan sy’n ysgrifennu amdanynt yn unig.
Teyrnged i’r clasuron
Mae rhai yn dadlau nad yw’r diwydiant cerddoriaeth yn cyflawni anghenion y gwrandawyr ac nid yw’r labeli cerddoriaeth yn gwneud digon i fodloni anghenion cerddorol eu prynwyr. Felly, mae pobl yn edrych mewn mannau eraill am gerddoriaeth.
I raddau mae cysyniad o ‘deyrnged’ yn ymestyn yn bellach. Os ydych chi’n meddwl am genres eraill er enghraifft glasurol, jazz a cherddoriaeth draddodiadol, gellir dadlau eu bod nhw yn rhoi teyrnged i’w genre nhw.
Meddyliwch am funud, os ydych chi’n chwarae darn clasurol gan Mozart er enghraifft mae’n rhaid i chi chwarae’r darn yn null Mozart er mwyn i’r darn fod yn onest, yn yr un ffordd mae No Way Sis yn chwarae cerddoriaeth yn null Oasis.
Felly, pwrpas y grwpiau hyn yw dal ysbryd y darn neu yn ein hachos, ysbryd y grŵp.
Mae ymrwymiad gan rhai grwpiau yn ymylu ar fod yn grefyddol. Tra iddynt astudio pob manylyn cyfarwydd, maen nhw’n bwydo eu hobsesiynau eu hunain yn ogystal ag obsesiynau’r ffans. Gyda balchder, maen nhw’n dal eiliad mewn adeg ac nid ydynt yn gwadu dim byd.
Gallwch ddarllen mwy gan Hannah ar ei blog, http://jazzysheepbleats.wordpress.com/, neu ei dilyn ar Twitter ar @Tweet_The_Bleat.