Ni fydd Eisteddfod yr Urdd yn gallu benthyg cadeiriau olwyn na bygis i bobol sy’n dod i ymweld â’r maes yn y Bala eleni, wedi iddyn nhw fethu a dod o hyd i gwmni i ddarparu’r gwasanaeth.

Fe ofynnodd yr Eisteddfod i chwe chwmni i ddarparu cadeiriau olwyn a bygis, ond bu i bob cwmni wrthod.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Eisteddfod, mae mynediad addas a rampiau wedi eu gosod ar hyd y maes er mwyn hwyluso’r mynediad i bobol sydd am ddod a’u cadeiriau olwyn eu hunain.

‘Neb yn gallu darparu’r gwasanaeth’

Dywedodd llefarydd ar ran Eisteddfod yr Urdd:  “Cysylltodd yr Urdd â chwe chwmni hurio cadeiriau olwyn a bygis gan ofyn iddyn nhw ddarparu’r gwasanaeth, ond nid oedd yr un cwmni yn gallu darparu’r gwasanaeth ar gyfer yr wythnos.

“Mae mynediad i’r maes yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn gyda giât arbennig  yn y Ganolfan Groeso, rampiau ar hyd y maes ac fe fydd y tracfyrddau pwrpasol yn caniatáu cadeiriau olwyn a bygis i symud yn hwylus ar hyd y maes.

“Nid oes defnydd o gerrig ar y maes. Mae modd cael defnydd o fygis yr Urdd er mwyn cludo eisteddfodwyr llai abl o’r meysydd parcio i’r Ganolfan Groeso.”

Ychwanegwyd y bydd stiwardiaid ar gael i helpu unrhyw ymwelydd os oes angen.