Rolf Harris
Mae dynes, sy’n honni bod y diddanwr a’r artist Rolf Harris wedi ymosod yn anweddus arni pan oedd hi’n blentyn, wedi bod yn ei dagrau wrth roi tystiolaeth heddiw.

Mae’r ddynes, sy’n rhoi tystiolaeth y tu ôl i sgrin yn Llys y Goron Southwark, yn honni bod Harris wedi ymosod arni pan aeth hi ato i ofyn am ei lofnod mewn canolfan gymunedol ger Portsmouth rhwng 1968 a 1970.

Dywedodd y ddynes wrth y rheithgor ei bod wedi cyrraedd blaen y ciw, a bod Harris wedi plygu i lawr, llofnodi darn o bapur, ac yna wedi ei chyffwrdd rhwng ei choesau.

“Roedd yn edrych arna’i, yn gwenu, roeddwn i’n gwenu, ac yn edrych yn gyffrous ac yna’n sydyn nes i deimlo ei law yn mynd i lawr fy nghefn a rhwng fy nghoesau.”

Dywedodd ei bod yn meddwl y gallai fod wedi bod yn ddamweiniol y tro cyntaf ond wedyn mae’n honni iddo wneud yr un peth eto ond yn fwy “ymosodol.”

“Roedd yn teimlo’n ymosodol iawn ac roeddwn i’n gwybod nad oedd hynny’n ddamweiniol,” meddai.

Dywedodd y ddynes, sy’n 52 oed erbyn hyn, nad oedd hi wedi bod “yr un plentyn” ar ôl y digwyddiad honedig.

Clywodd y llys bod y ddynes wedi dweud wrth ei theulu, ei gwr a’i ffrindiau am yr ymosodiad honedig.

Mae Rolf Harris wedi pledio’n ddieuog i 12 o gyhuddiadau o ymosod yn anweddus ar bedair merch.

Mae’r achos yn parhau.