Protest Ysgol Rhydywaun Llun: Morgan Powell
Mae Cyngor Merthyr Tudful wedi gwneud tro pedol ac wedi penderfynu peidio gorfodi disgyblion hynaf Ysgol Gyfun Rhydywaun i dalu am gludiant i’r ysgol.

Mae bron i 50% o ddisgyblion dros 16 oed Rhydywaun yn teithio i’r ysgol ger Hirwaun oherwydd diffyg addysg uwchradd Gymraeg ym Merthyr.

Yn ôl y disgyblion a’r Prifathro Hywel Price, roedd y Cyngor yn bygwth dyfodol Chweched Dosbarth yr ysgol ac felly yn bygwth dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

Roedd y cyngor yn ceisio arbed £115,000 y flwyddyn drwy ddileu’r cludiant am ddim.

Ym mis Chwefror, fe fu 400 o bobol yn gorymdeithio trwy strydoedd Merthyr Tudful mewn protest wedi ei drefnu gan y disgyblion yn erbyn y cynlluniau arfaethedig.

Roedd ymgyrch y disgyblion hefyd yn cynnwys mynychu cyfarfodydd cyhoeddus a sicrhau bod dros 1,000 o bobl yn ymateb i ymgynghoriad y Cyngor.

‘Rhyddhad’

Yn ôl Prif Fachgen yr ysgol, Morgan Powell, roedd y disgyblion wrth eu boddau i glywed am benderfyniad  y Cyngor ac mae “naws o ryddhad a dathlu trwy gydol yr ysgol”:

“Yn awr, gallwn barhau â’n harholiadau gan wybod bod ein hymgyrch brwd yn erbyn y cynnig wedi sicrhau dyfodol ar gyfer ein Chweched Dosbarth ac i’r iaith Gymraeg yn ardal Merthyr.

“Rydym wedi dangos i ddisgyblion, os ydym yn gweithio gyda’n gilydd, mae’n bosib i ni gael effaith ar wleidyddiaeth, er gwaethaf yr agwedd gwbl ddifeddwl ac annemocrataidd dangosodd y Cyngor pan wnaethon nhw’r cynnig yn y lle cyntaf.

“Allwn ni ddim ond gobeithio y byddan nhw’n meddwl ddwywaith cyn ystyried polisïau sy’n bygwth yr iaith Gymraeg yn yr ardal eto.”

‘Y frwydr ddim ar ben’

Ychwanegodd Morgan Powell: “Roedd yn drist i weld y rhan fwyaf o’r toriadau eraill yn cael eu pasio gan y Cyngor, gan gynnwys cau rhai o’r canolfannau i bobol ifanc a thoriadau i Brydau ar Glud.

“Er i ni ennill buddugoliaeth, mae brwydr dal i’w hymladd yn erbyn llymder economaidd mor greulon, ac mae nifer ohonom, ar ôl gweld beth allwn ni gyflawni, yn fwy na pharod i barhau i frwydro.”