Paul Flowers
Mae cyn bennaeth banc y Co-op Paul Flowers wedi cyfaddef bod â chyffuriau yn ei feddiant, gan gynnwys cocên.

Bu’r gweinidog yn ymddangos gerbron ynadon yn Leeds bore ma lle plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o fod a chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant – cocên a crystal meth – ac un cyhuddiad o fod a’r cyffur dosbarth C, ketamine,  yn ei feddiant.

Yn y llys dywedodd yr erlynydd Claire Stevens bod Flowers wedi cael ei arestio ar ôl iddo gael ei ffilmio yn talu £300 am y cyffuriau mewn car yn Leeds ym mis Tachwedd y llynedd.

Cafodd y lluniau eu gwerthu i’r Mail on Sunday.

Ar ôl cael ei arestio, dywedodd Flowers wrth yr heddlu ei fod wedi defnyddio cocên ers tua 18 mis er mwyn ei helpu gyda phwysau wrth iddo ofalu am ei fam sydd bellach wedi marw.

Cafodd ddirwy o £400 a gorchymyn i dalu costau o £125.

Roedd Flowers, 63 oed, wedi ymddiswyddo fel cadeirydd Banc y Co-op ym mis Mehefin y llynedd yn dilyn honiadau  ei fod yn defnyddio cyffuriau anghyfreithlon a’i fod wedi hawlio treuliau amhriodol.

Cafodd hefyd ei wahardd gan yr Eglwys Fethodistaidd a’r Blaid Lafur.