Tate Britain
Mae artist o Gymru yn un o bedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer y wobr gelf Turner Prize eleni.

Mae’r wobr flynyddol yn cael ei roi i’r darn o gelf fodern gorau a gafodd ei greu yn y 12 mis diwethaf gan artist ym Mhrydain ac mae £25,000 ar gael i’r enillydd.

Cafodd James Richards, sy’n 30 oed ac yn wreiddiol o Gaerdydd, ei enwebu ar ôl iddo greu ffilm o’r enw Rosebud sy’n cynnwys lluniau o lyfrau erotig mewn llyfrgell yn Tokyo.

Yn ôl cadeirydd y panel beirniadu, Penelope Curtis: “Mae’r pedwar sydd wedi eu dewis ar y rhestr fer yn rhannu presenoldeb rhyngwladol cryf a’r gallu i addasu ac i ail-ddehongli eu gwaith a gwaith eraill.”

Y tri arall ar y rhestr fer yw Tris Vonna-Michell, Duncan Campbell, a Ciara Phillips.

Bydd arddangosfa’r Turner Prize 2014 yn cychwyn ar 30 Medi ac yn rhedeg tan 4 Ionawr.