Leslie Thomas gyda'i wraig Diana yn derbyn ei OBE yn 2004
Mae’r awdur Leslie Thomas, sy’n fwyaf adnabyddus am ei nofel The Virgin Soldiers, wedi marw yn 83 oed.

Cafodd Thomas ei eni yng Nghasnewydd, a’i fagu mewn cartref Barnardo’s. Fe ddechreuodd weithio fel gohebydd ar bapur wythnosol cyn dechrau swydd gyda’r London Evening News yn Fleet Street.

Ei gyfnod fel milwr yn Malaya a’i ysbrydolodd i ysgrifennu The Virgin Soldiers, sy’n dilyn hynt a helynt milwyr o Brydain sydd wedi’u lleoli yn y Dwyrain Pell.

Cafodd y nofel ei throi’n ffilm yn ddiweddarach.

Fe dderbyniodd Leslie Thomas OBE am ei wasanaethau i lenyddiaeth yn 2004 ac fe ysgrifennodd lu o nofelau a llyfrau teithio yn ystod ei yrfa.

Dywedodd ei wraig, Diana: “Roedd wedi cael bywyd gwych ac wedi teithio’r byd. Y cwbl yr oedd o eisiau ei wneud oedd ysgrifennu a dyna beth wnaeth o.

“Bu farw yn ei gartref gyda’i deulu o’i gwmpas.”

Mae’n gadael ei wraig, Diana, a phedwar o blant.