Steve Eaves yn derbyn Gradd Doethur er Anrhydedd
Mae’r cerddor a’r bardd Steve Eaves wedi derbyn Gradd Doethur er Anrhydedd am ei “gyfraniad eithriadol” i iaith a diwylliant Cymru.
Casglodd Steve Eaves ei ddoethuriaeth yn seremoni raddio’r Brifysgol Agored yng Nghymru ddydd Sadwrn 3 Mai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Dechreuodd gyrfa Steve Eaves dros ddeugain mlynedd yn ôl, ac ers hynny, mae wedi rhyddhau 10 albwm a chyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth.
“Rwy’n arbennig o falch fod y Brifysgol wedi cydnabod yn y modd yma gyfraniad y sin gerddoriaeth Gymraeg a barddoniaeth Gymraeg gyfoes i ddiwylliant Cymru,” meddai wrth dderbyn ei ddoethuriaeth er anrhydedd.
‘Hen bryd’
Ychwanegodd Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru: “Byddai nifer yn dadlau ei bod yn hen bryd i waith Steve gael ei gydnabod yn ehangach, a heddiw mae’n bleser gan y Brifysgol Agored gyfrannu at sicrhau hynny.
“Hyd yn oed ymhlith cenhedlaeth o awduron talentog, mae geiriau Steve yn sefyll allan, a hynny oherwydd eu gallu i gyffwrdd y gynulleidfa a rhoi gwefr iddynt.”