35 Diwrnod
Rhybudd: Mae’r darn yma’n trafod seithfed bennod ‘35 Diwrnod’ ar S4C. Peidiwch â’i ddarllen os nad ydych chi wedi gwylio’r bennod.

Ciron Gruffudd sydd wedi bod yn gwylio…

Amser yma’r wythnos nesa, fe fyddwn ni’n gwybod pwy laddodd Jan, ond roedd y bennod olaf ond un o ‘35 Diwrnod’ bron fel rhan 1 o 2 wrth i bopeth ddisgyn mewn lle erbyn y diweddglo.

Ac mae’n rhaid i mi ddweud, mi wnes i fwynhau’r bennod yma ar y cyfan. Roedd hi’n dda gweld Tony yn cael ei haeddiant, y newid yng nghymeriad Richard, Jan yn dangos emosiwn am yr ail waith yn y gyfres ac, wrth gwrs, helyntion Bobo’r clown.

Jan

Mae’r diwedd ar ei ffordd i Jan ond dyw hi ddim yn mynd heb ffeit ac mae’r ffaith ei bod hi wedi rhoi cyffuriau mewn diod i Cerian cyn gadael y ferch ysgol yn anymwybodol ar stryd yn y dre wedi dangos ochr oeraidd a chas iawn iddi.

Yn amlwg, doedd Jan ei hun heb fod allan ers talwm iawn. Wedi’r cwbl, pwy ar wyneb y ddaear sy’n cael “noson allan ar y teils”? Swnio fel y math o ferch fyddai yna’n mynd  ymlaen am boogie-woogie i’r discotheque.

Roedden ni eisoes yn gwybod nad oedd Jan yn hoffi cacennau – mae hi wedi cael dwy gan Beti ac aeth y cyntaf yn syth i’r bin. Ond mae dychwelyd y tin hefo’r gacen dal ynddi hi yn anfaddeuol mewn cymdeithas waraidd. Gwenwyn ai peidio.

Mae hi wedi gadael y tŷ a stad Crud yr Awel, am y tro, ond rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n dychwelyd yno i farw. Er hynny, ro’n i’n disgwyl i Bobo ymddangos o set gefn y car ar ddiwedd y bennod ond  ble mae o wedi ei chuddio hi am y tro?

Y Teulu Jenkins

Ro’n i’n meddwl bod perfformiad Ryland Teifi fel Richard yn dda iawn yr wythnos hon – wedi saith wythnos o edrych fel clwt gwlyb.

Ond er ei fod o wedi dangos asgwrn cefn wrth fod eisiau achub ei deulu, dwi’n meddwl mai euogrwydd, yn y pen draw, sydd ar ei feddwl y rhan fwyaf o’r amser.

Mae rhywbeth rhwng y llinellau pan mae o a Sali’n siarad â’i gilydd sy’n gwneud i mi feddwl ei fod o’n ei chasáu hi oherwydd ei bod hi wedi ei berswadio i roi’r sac i chwaer Jan ac yna pardduo ei henw hi yn y tribiwnlys.

Mae euogrwydd a’r angen i achub ei deulu yn ddau emosiwn cryf iawn ond yw hi’n rhy amlwg mai Richard fydd yn lladd Jan? Dwi ddim yn meddwl fod ganddo’r gallu i ladd rhywun a dyna pam ei fod o wedi talu Bobo i wneud rhywbeth yn ei le.

Mae Cerian druan yn yr ysbyty, ond dim hi yw’n ffefryn i o’r plant. Er cyn lleied rydyn ni wedi ei weld ohono, mae gan ei brawd hi, Jac, linellau da iawn. “Shit happens,” oedd ei unig ymateb i’r newydd am ei chwaer.

Petai pawb yn y rhaglen gyda’r un agwedd o ddihidrwydd ag o, fydda Jan heb symud i’r stad ac mi fydden ni gyd wedi gallu treulio 8 awr o’n bywydau yn gwneud rhywbeth o werth, fel achub cathod.

Y Morisiaid

Mi nes i rybuddio ar ôl y bennod gyntaf un na allwch chi ymddiried mewn merch fach ar feic. Yn sydyn, yn y bennod olaf ond un, mae Melodi, a’i beic, yn dychwelyd. Cyd-ddigwyddiad? Dwi’n amau’n fawr. Wedi’r cwbl, mae lot o hanes diweddar iawn o salwch meddwl yn y teulu. Jyst deud.

Dwi wedi dod i licio Ben hefyd. Mae’r byd mawr yn ormod iddo’i ddeall – “Mae rhywun yn dweud celwydd,” ebychodd, wrth drio darganfod pwy wnaeth blacmelio’i dad. Hoelen. Pen. Tarwyd.

Mi nes i wirioneddol fwynhau’r olygfa ble’r oedd Beti’n dod adre ar ôl bod am dro gan ddweud wrth Ben nad oedd angen poeni gan ei bod hi gyda Gruff – ac yna tynnu ei lwch o’i bag siopa. Dyna’r math o hiwmor mae un o’r awduron, Siwan Jones, yn ei wneud yn reddfol fel arfer ond sydd wedi bod ar goll yn y gyfres hon er mawr siom.

Huw a Caroline James… a Bobo

Mae Bobo yn greadur rhyfedd yn tydi? Dwi erioed wedi gweld addict sydd ddim ond isio’i “stwff” yn achlysurol iawn cyn anghofio’n llwyr am y peth wedyn.

Mae o i’w weld yn ddi-hid iawn am yr hit sydd allan amdano hefyd. Ond, mi wnes i fwynhau’r olygfa slapstic pan gafodd o’i ddal yn nhŷ Richard. Da chi’n gweld – mae o yn glown go iawn wedi’r cwbl!

Ond, mae o’n glown drwg, ac er nad ydw i’n meddwl y bydde fo’n lladd Jan, mae o’n bendant wedi ei charcharu hi.

Ond, dwi erioed wedi deall pam bod dynion drwg sy’n cuddio ar seddi cefn ceir ddim yn disgwyl i’r car stopio cyn neidio allan a dychryn y gyrrwr.  Swnio’n beryglus fel arall.

Mae Huw wedi cyrraedd pen ei dennyn ac yn edrych fel petai o’n barod i gracio. Ydy hynny’n  golygu ei fod o’n barod i ladd? Hmm, mae hi’n amhosib dweud!

Tony, Pat a Linda

Perthynas Pat a Linda yw’r un sydd wedi gwneud i mi ddyfalu fwyaf trwy’r gyfres ac mae perfformiad Matthew Gravelle fel Pat wedi bod yn wych iawn.

O’r diwedd, wrth i Linda hel ei phac a gadael ei ffrind gyda Tony ddrwg, rydyn ni’n dod i ddeall y gwir. Ydy, mae Pat yn caru Linda ond dim ond fel ffrind. Eisiau ei chadw hi’n saff oedd hi drwy gydol yr amser – ond ar ba gost iddi hi ei hun?

Golygfeydd Pat a Linda gyda’i gilydd yw un o uchafbwyntiau’r gyfres ond dwi yn edrych ymlaen at weld Pat a Tony, y cwpl od, yng ngyddfau ei gilydd yr wythnos nesaf!

Moment yr wythnos

Richard yn dweud wrth Jac bod Cerian dal yn HD. Mae hi’n lwcus, achos tydi sianel HD S4C, Clirlun, heb fod mewn bodolaeth ers 2012.