Heathrow - fe gafodd 11 aelod o OKA eu cludo i'r ysbyty ar ôl glanio
Mae côr plant, Only Kids Aloud, wedi cyhoeddi neges o ddiolchgarwch ar wefan gymdeithasol Twitter, wedi i 11 aelod gael eu taro’n wael ar eu ffordd yn ôl o daith dramor.

Roedd y criw ar awyren yn ôl o Dde Affrica heddiw, pan aeth yr aelodau’n sâl. Fe gawson nhw eu cludo i ysbyty yng ngorllewin Llundain, yn syth wedi iddyn nhw lanio ym maes awyr Heathrow.

“Diolch am bob neges yn dymuno’n dda,” meddai neges y côr.

“Rydyn ni’n falch o ddweud ein bod ni i gyd nawr ar fysus ar ein ffordd gartre’ i Gymru.”

Roedden nhw wedi bod yn Cape Town yn perfformio mewn cyngherddau i nodi 20 mlynedd o ddemocratiaeth yn Ne Affrica.