Candelas (Llun: Heledd Roberts)
Am y tro cynta’ erioed, mae aelodau’r Urdd wedi ffilmio fideo cerddorol i hyrwyddo Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Lansiwyd fideo newydd sbon o’r gân ‘Mistar Blaidd’ mewn perfformiad arbennig gan y grŵp Candelas gyda chriw o aelodau’r Urdd ym Meirionnydd.

Mae’r fideo i’w weld ar You Tube i ddathlu’r ffaith bod Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 yn cyrraedd tre’r Bala ddiwedd mis Mai.

Cyfansoddwyd y gân ‘Mistar Blaidd yn wreiddiol gan Caryl Parry Jones nôl yn nechrau’r 80au ar gyfer cyfres o’r enw Lan Lofft. Flynyddoedd yn ddiweddarach, fe’i defnyddiwyd fel un o ganeuon Jambori’r Urdd.

Mae’r fideo newydd a’r gân gan Candelas i’w gweld ar Safe youtube yr Urdd, fan hyn.