Nant Gwrtheyrn
Bydd llyfrau Cymraeg newydd sbon yn cael eu lansio mewn gŵyl lyfrau genedlaethol yn Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn y penwythnos yma.

Cafodd Gŵyl Bedwen Lyfrau ei sefydlu yn 2006 ac er mai hyrwyddo llyfrau Cymraeg yw’r pwrpas, ymweliad â Barcelona wnaeth sbarduno’r holl beth yn ôl un o’r trefnwyr.

“Ei bwriad hi ydy cyflwyno llyfrau newydd, cyflwyno digwyddiadau difyr sy’n ymestyn o’r llyfrau yna a gwerthu llyfrau,” meddai’r Prifardd Myrddin ap Dafydd.

“Roeddem ni’n digwydd bod ym Marcelona yn ystod Diwrnod y Llyfr ac mi roedd o’n ddigwyddiad anhygoel. Roedd y lle’n llawn o stondinau a cherddoriaeth ym mhob un sgwâr bach – roedd hi fel ‘Steddfod yno!

“Felly trio dod ag ychydig o gyffro Barcelona a Diwrnod y Llyfr i’r wŷl yma ydan ni.”

Clymu Brasil a Llŷn

Bydd blas Llŷn a’r cyffiniau dros y penwythnos, meddai Myrddin ap Dafydd.

“Fe fydd yna gyfrol ar bysgotwyr Llŷn yn ymddangos, mae yna gyfrol fusnes sy’n trafod garddio yn y Ffôr a hefyd cyfrol ar dramp enwog iawn o’r ardal.”

Mae yna tua saith llyfr newydd yn cael eu lansio – gan awduron fel Llyr Gwyn Lewis, Manon Steffan Ros a Dewi Alun Hughes – ac fe fydd digon o weithgareddau i’r plant hefyd yn ogystal â sgyrsiau, ffilmiau a thaith natur yng nghwmni Bethan Wyn Jones.

Geraint Lovgreen fydd yn cloi’r gweithgareddau am y diwrnod fel rhan o ddigwyddiadau i lansio cyfrol Awen Iwan er cof am y diweddar Iwan Llwyd.