Logo newydd S4C
Mae S4C yn chwilio am unigolion a theuluoedd sy’n barod i gamu nôl a byw bywyd fel oedd hi yn 1525.

Fe fydd y gyfres gyfnod Y Llys, sy’n dilyn cyfres debyg Y Plas, yn mynd â chriw o bobol yn ôl i Oes y Tuduriaid i gael blas ar fywyd mewn llys Cymreig yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Heb unrhyw fath o gyfrifiadur, ffân na char bydd rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan wisgo, gweithio a  bwyta yn union fel y byddai’r Tuduriaid wedi gwneud yn 1525, gyda chamerâu yn eu dilyn bob cam o’r ffordd.

Llys Tretŵr ger pentref Crughywel yn ne Powys fydd yn cael ei ddefnyddio yn y gyfres.

Mae cwmni cynhyrchu Boom Pictures Cymru yn chwilio am hyd at 20 o bobol i gymryd rhan, a bydd gofyn iddyn nhw fyw yn y llys am dair wythnos dros dymor yr Hydref eleni.