Dylan Iorwerth yn adolygu drama newydd Caryl Lewis a Theatr Genedlaethol Cymru

Roedd yna bob math o gysgodion ar lwyfan Theatr Felinfach, neithiwr; rhai llythrennol yng ngoleuo’r llwyfan, rhai dramatig yng nghefndiroedd y cymeriadau ac, eraill, lledrithiol yn sgript Caryl Lewis.

Mae cysgod ei nofel ei hun, Martha, Jac a Sianco, ar Y Negesydd, nid o ran stori ond o ran awyrgylch a gwerthoedd. Mae yma’r un gyd-ddibyniaeth ddifaol rhwng y cymeriadau, yr un awydd i glwyfo er mwyn amddiffyn, yr un methiant i dorri’n rhydd rhag gorffennol agos.

Mae yna gysgodion eraill hefyd. Mae Caryl Lewis ei hun yn cydnabod dylanwad Thomas Hardy ond mae gwrachod yr hen Gymru wledig yma hefyd, a Sarah Jacob a lwgodd i farwolaeth lai na chanrif a hanner a llai nag ugain milltir o ddaear Caryl Lewis ei hun.

Ond er mai cysgodion y gorffennol ydi’r rhain, maen nhw’n gysgodion o’n bywydau ninnau, y ffordd yr yden ninnau’n trin rhywun sydd fymryn yn wahanol, ein hymlyniad ninnau wrth ofergoel a’n methiant ninnau, heb wybod hynny, i ymddihatru rhag yr hyn oedden ni ac y gallen ni’i fod.

Ac o sôn am ymddihatru, wrth droi o fod yn blentyn i fod yn ferch ifanc ac yn fenyw, mae’r prif gymeriad Elsi’n gwisgo dilledyn newydd ar y llwyfan o’n blaen … ond bob tro’n mynd yn ôl i bais wen syml, blaen a honno hefyd yn wisg claf mewn ysbyty meddwl. Dyna’r cysgod dan bob gwisg.

Y gwisgo, yn hytrach na diosg, ydi un o amryw o ddyfeisiadau diddorol i droi’r stori yn ddrama lwyfan; mae’r set, gyda’i thaflod, yn un arall a chysgod Jane Eyre, ymhlith eraill, yn llithro ar draws y meddwl. A ffurf y set yn golygu fod popeth yn troi o amgylch yr un stafell yn y tŷ, er efallai y byddai modd gwneud mwy o’r ‘tu allan’.

Lleisiau

Clywed lleisiau y mae Elsi’r ferch fach a hynny’n ei gosod ar wahân i’r plant eraill ac mae’r lleisiau’n parhau wrth iddi dyfu’n hŷn, yn gysur a phoen iddi ei hun ac yn ddryswch i bawb arall. Roedd eisiau perfformiad dwfn i wneud cyfiawnder â’r cymeriad y mae Caryl Lewis wedi’i greu; mi roddodd Sara Lloyd-Gregory hwnnw.

Bron nad oeddech chi’n ei gweld yn cael ei hysgytian gan y lleisiau a chysgodion y gorffennol a’r dyfodol yn ymrithio trwy ei hwyneb a’i chorff. Roedd hyd yn oed ei chroen fel petai’n gloywi neu bylu wrth iddi bendilio o un teimlad i’r llall. A chraffter seicolegol Caryl Lewis, fel yn Martha, Jac a Siancio, yn creu’r ambell ennyd bach yna lle mae un gair neu ymateb cynnil yn cyfleu dyfnder.

Ei hathrylith arall yw gallu troi cysgodion yn gymeriadau cig a gwaed ac ofnau a hiraeth ac euogrwydd yn ddigwyddiadau.

Y perfformiad i gyfateb i un Sara Lloyd-Gregory, ail bentan y bont, oedd un Geraint Morgan, y tad gwladaidd, tlawd, yn gymysgedd rhwystredig o wrthryfel a pharchedig ofn, yn cyfarth a chwyrnu fel ci ar dennyn. Ac, weithiau, fel anifail wedi’i gornelu.

Hanner-gwawdio, hanner-ofni’r lleisiau y mae ef a’r wraig ifanc, Annie, sydd fel petai’n wrthbwynt i Elsi ond mae’r ddau hefyd yn dangos ein hawydd ni i gyd (angen efallai) i gredu, weithiau, yn yr afresymol. Roedd Lisa Marged ar ei gorau wrth droi o fod yn sychbren stiff i ddangos gobaith a serchowgrwydd.

A chael ei rwygo rhwng y byd caled a byd y dychymyg y mae Ifan (Aled Pedrick). Elsi yw’r cyfrwng, ond Ifan ac Annie yw’r cyfryngau sy’n gwthio’r stori ac yn creu’r golau i ddangos y cysgodion ym mywydau Elsi a’i thad. Ac yntau’n benna’ yn gorfod ymateb yn emosiynol i eraill, camp Aled Pedrick oedd creu cymeriad byw.

Grym

Gyda drama sy’n cynyddu’n raddol yn ei grym ac yn mynd â ni i fyd y tu hwnt i reswm, mi fyddai’r gwendid lleia’ yn y perfformiadau yn tanseilio’r cyfan. Doedd yna ddim, heblaw am yr anhawster bach ar y dechrau o gael oedolion – yn enwedig dynion cyhyrog – i ymddangos yn blant … anoddach, bron, na gweithio gyda phlant eu hunain. Y duedd ydi actio fel y mae actorion yn actio plant, yn hytrach na phlant eu hunain.

Roedd angen i’r cynhyrchiad cyfan fod yr un mor dynn a chynnal yr awyrgylch … a’r unig amheuaeth gen i oedd y defnydd o gerddoriaeth, fel petai wedi crwydro’n ddiangen o fyd teledu gan wanhau yn hytrach na chryfhau. Weithiau, distawrwydd sy’n arswydus. Fel cysgodion.

Dyddiadau Y Negesydd

Theatr Felinfach, heno, 2 Mai.

Theatr Mwldan, Aberteifi, 6-7 Mai.

Theatr y Sherman, Caerdydd, 13 Mai.

Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, 16-17 Mai.

Galeri, Caernarfon, 19-20 Mai

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, 24 Mai.