Mae plismyn yn parhau y tu allan i'r ysgol yn Leeds
Mae’r arweinydd Catholig yng Nghymru a Lloegr wedi son am ei “sioc a thristwch” ar ôl mi athrawes gael ei thrywanu i farwolaeth mewn ysgol yn Leeds.

Dywedodd y Cardinal Vincent Nichols, Archesgob Westminster, ei fod yn anfon ei gydymdeimlad dwysaf i deulu Ann Maguire, gan gynnwys ei gwr a dwy ferch.

Roedd yr athrawes Sbaeneg, 61, wedi gweithio yng Ngholeg Catholig Corpus Christi yn Leeds ers 40 mlynedd ac roedd disgwyl iddi ymddeol ym mis Medi.

Daeth datganiad Cardinal Nichols ar ôl i gadeirydd y Gwasanaeth Addysg Catholig, y Gwir Barchedig Malcolm McMahon fynegi ei sioc a’i dristwch ynglŷn â’r digwyddiad “drasig”.

“Roedd Ann wedi rhoi ei bywyd i’r coleg ac addysg Gatholig, ac roedd miloedd o bobl ifainc wedi elwa o’i charedigrwydd a’i gwaith caled dros nifer o flynyddoedd,” meddai.

Yn y cyfamser mae’r heddlu’n aros i holi bachgen  15 oed ynglyn a’r ymosodiad. Maen nhw eisoes wedi dweud y gall fod yn beth amser eto cyn y gallen nhw ei holi.

Mae archwiliad post mortem wedi dangos bod Ann Maguire wedi cael ei thrywanu nifer o weithiau.

Fe agorodd yr ysgol yn ôl yr arfer heddiw gyda staff a swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth i ddisgyblion, yn enwedig y 30 o blant a oedd wedi bod yn dyst i’r digwyddiad. Daeth 750 o’r 1,000 o ddisgyblion i’r ysgol heddiw.

Mae’r ymosodiad wedi codi cwestiynau ynglyn a diogelwch mewn ysgolion. Ond dywedodd pennaeth Coleg Catholig Corpus Christi, Steve Mort, bod yn rhaid cofio bod y  digwyddiad yn “ddigynsail” ac y byddai Ann Maguire wedi gwrthod unrhyw awgrym i dynhau diogelwch mewn ysgolion.