Mae’r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable a’r gweinidog Michael Fallon wedi cael eu beirniadu’n hallt gan Aelodau Seneddol ar ôl i’r ddau fynnu bod preifateiddio’r Post Brenhinol wedi bod yn llwyddiant ac nad oedden nhw’n edifar gwerthu’r busnes.

Roedd Vince Cable a Michael Fallon wedi wfftio honiadau bod y cwmni wedi cael ei werthu’n rhy rad a bod hynny wedi costio dros £1 biliwn i’r trethdalwr am fod prisiau cyfrannau wedi codi’n sylweddol ar ol cael eu gwerthu.

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Fusnes, Adrian Bailey ei bod yn “anhygoel” eu bod yn honni bod y cyfrannau wedi’u gwerthu am y pris gorau. Ychwanegodd yr AS Ceidwadol Brian Binley bod y gweinidogion wedi cael eu gadael i lawr gan yr arbenigwyr fu’n cynghori ynglŷn â gwerthiant y Post Brenhinol.

Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) wedi galw o’r newydd ar Vince Cable i ymddiswyddo ar ol iddo honni bod y bygythiad o weithredu diwydiannol gan staff y Post Brenhinol wedi bod yn rhannol gyfrifol am werthu’r cyfrannau am bris cychwynnol o 330p.

Fe gyfaddefodd yr Ysgrifennydd Busnes bod gwersi i’w dysgu ynglŷn â’r ffordd maen nhw’n delio gyda phreifateiddio cwmnïau ond mynnodd nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o’i le yng ngwerthiant y Post Brenhinol.

Ychwanegodd Michael Fallon: “Dwy flynedd yn ol roedd y Post Brenhinol yn gwneud colled. Heddiw mae’n un o’r 100 cwmni uchaf ym Mhrydain, gyda dyfodol sefydlog sy’n gallu cynnig gwasanaeth chwe diwrnod yr wythnos. Mae hynny’n llwyddiant.”

Ond dywedodd Adrian Bailey bod y Llywodraeth wedi bod yn rhy negyddol yn ei ymdrechion i werthu’r cwmni.