Fe fydd biniau sbwriel gwyrdd yng Ngwynedd yn cael eu casglu bob tair wythnos yn hytrach na phob pythefnos, ar ôl i Gabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo’r argymhelliad heddiw.
Gwynedd fydd y sir gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r newid a’r ail ym Mhrydain, ar ôl Falkirk yn yr Alban.
Bydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno yn ardal Dwyfor o’r sir ym mis Hydref 2014 a disgwylir i’r newidiadau gael eu cyflwyno’n raddol yn ardaloedd Meirionnydd ac Arfon yn 2015.
Ni fydd unrhyw newidiadau i’r gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff bwyd wythnosol.
Ailgylchu
Yn ôl y cyngor, mae gwaith ymchwil manwl yn cadarnhau y bydd newid y casgliadau gwastraff gweddilliol yn annog trigolion i wneud defnydd llawn o’r gwasanaeth ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol.
“Dim ond tua hanner o gartrefi Gwynedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth casglu ail-gylchu a gwastraff bwyd wythnosol ar hyn o bryd,” meddai Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Gareth Roberts.
“Fel Cyngor mae’n rhaid i ni rŵan gymryd camau i ddarbwyllo’r trigolion hyn sy’n parhau i daflu gwastraff gellir cael ei ail-gylchu neu ei gompostio yn eu bin olwyn gwastraff gweddilliol i ddechrau defnyddio’r gwasanaeth casglu ail-gylchu gwastraff bwyd wythnosol cyfleus.
“Yn 2012/13, roedd Gwynedd o fewn trwch blewyn o dderbyn dirwy o £123,000 gan Lywodraeth Cymru am fethu â chyrraedd targedau ailgylchu a thirlenwi cenedlaethol.
“Trwy gymryd camau rŵan a gweithio gyda chymunedau lleol, rydym yn hyderus y byddwn yn gallu cynyddu lefelau ailgylchu yn sylweddol fel y gallwn osgoi dirywion ariannol enfawr na allwn eu fforddio.”
‘Talu mwy am lai’
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr Amgylchedd, Russell George: “Mae trethdalwyr yn talu mwy am lai o wasanaeth o dan y Llywodraeth Lafur.
“Mae teuluoedd Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn treth cyngor ym Mhrydain o 5%, ond er hynny rydym yn derbyn gwasanaethau o safon isel.
“Bydd biniau gorlawn yn atynnu mwy o anifeiliaid gwyllt, yn gwneud i bobol gael gwared â sbwriel yn anghyfreithlon ac yn llygru strydoedd Cymru.
“Fe ddylai gweinidogion Llafur fod wedi galluogi cynghorau Cymru i rewi treth cyngor ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio’n galed a chydweithio hefo’r awdurdodau i warchod gwasanaethau rheng flaen.”