Fe ddylai busnesau cyfrifiadurol yng Nghymru gymryd mantais o gyfleoedd ariannol gan y Bwrdd Strategaeth Dechnoleg er mwyn eu helpu i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd.
Dyna neges Ysgrifennydd Cymru, David Jones, ar ôl i gwmni Diogelwch Seiber Westgate o Gaerdydd – sy’n cynghori sefydliadau ar sut i warchod eu dogfennau cyfrifiadurol – dderbyn grant gwerth £60,000 gan y bwrdd.
Dywed David Jones ei bod hi’n hanfodol i fusnesau Cymreig fod “ar flaen y gad” o ran syniadau technolegol newydd.
“Mae’r sector diogelwch seiber ym Mhrydain yn werth tua £2.8 biliwn ac yn tyfu’n gyflym – erbyn 2017 fe all fod werth £3.4 biliwn,” meddai.
“Mae nifer o’r cwmnïau yma wedi’u lleoli yn Nyffryn Hafren – gan gynnwys ardaloedd yng Nghasnewydd a Chaerdydd – ac felly mae’n newyddion gwych fod Diogelwch Seiber Westgate wedi ennill y grant.
“Rydym ni mewn ras ryngwladol ac mae’n hanfodol i Gymru gadw ar flaen y gad o ran syniadau technolegol newydd.
“Rwy’n annog busnesau i gysylltu â’r Bwrdd Strategaeth Dechnoleg er mwyn gweld sut y gallen nhw gefnogi eu datblygiad.
‘Hanfodol’
Ychwanegodd Prif Weithredwr Diogelwch Seiber Westgate, David Jones: “Mae pob busnes sy’n cychwyn i ffwrdd yn wynebu her, ond mae cael y grant yma wrth gefn am fod yn hanfodol i’n helpu ni i gychwyn datblygu ein prosiect newydd.”