Richard Harrington yn Y Gwyll
Cafodd pennod gyntaf Y Gwyll/Hinterland ei darlledu ar BBC 4 neithiwr gan olygu bod y gyfres boblogaidd wedi cyrraedd cynulleidfa ehangach.
Y bore ma, roedd sawl adolygiad o’r ddrama dywyll yn y wasg Brydeinig – gyda’r rhan fwyaf yn ffafriol.
Ciron Gruffudd sydd wedi bod yn crynhoi’r ymateb:
Telegraph
Cafodd y ddrama farc o 4/5 gan y Telegraph gyda Ceri Radford yn dweud bod “egni gwahanol” wedi amlygu ei hun yn y stori gyntaf.
Meddai fod y ddeialog Cymraeg a Saesneg yn dod drosodd yn naturiol ond ychwanegodd nad y ddeialog yn unig oedd yn Gymreig:
Meddai: “Mae rhywbeth arall yn nheimlad y gyfres; cyfuniad o synnwyr cyffredin, ofergoeliaeth a dwyster cudd yn llechu tu ôl i lenni taclus.”
Herald Scotland
Roedd Julie McDowell hefyd wedi mwynhau’r stori gyntaf er nad oedd hi’n edrych ymlaen at wylio a’i bod hi wedi eistedd i lawr gydag “ochenaid” ac yn grwgnach ei bod hi’n gorfod gwylio drama drosedd dywyll arall.
Edrychiad y gyfres wnaeth yr argraff fwyaf arni, gyda’r “cyffyrddiadau Gothig” meddai, yn gwneud y ddrama’n wahanol iawn i ddramâu trosedd arferol.
Roedd y diweddglo hefyd wedi plesio er ei fod o’n “or-liwgar ac yn chwyddedig”.
Independent
Roedd Gerard Gilbert yn yr Independent yn meddwl ei bod hi’n drueni nad oedd BBC 4 wedi penderfynu darlledu fersiwn Gymraeg o Y Gwyll, gydag is-deitlau.
Meddai ei bod hi’n braf i rywun, sydd yn mentro’n bell tu hwnt i’r M25 yn aml, gael eu “hatgoffa nad yw ein hynysoedd ein hunain yn ieithyddol homogenaidd.”
Er ei fod yn teimlo bod y ddrama yn teimlo’n fwy organig na rhywbeth fel Shetland ar BBC 1, mae’n rhybuddio bod angen mwy nag awyrgylch i gynnal drama fydd ar ein sgrin am gyfnod o amser.
Meddai: “Er yr is-deitlau a harddwch llwm The Killing a The Bridge, maent hefyd yn cynnwys straeon a phlot cymhleth.”
Ar y wefan rhyngweithio gymdeithasol, Twitter, roedd y mwyafrif o’r sylwadau yn ffafriol iawn i’r gyfres.
Ond, roedd un neu ddau yn gwaredu clywed y Gymraeg ar sianel Brydeinig.
Dywedodd Jasper Crichton: “do we really need english tv taken up with a welsh language drama with english subtitles bbc 4 ??? no BOYO.”