Ann Maguire
Mae cyn-ddisgyblion athrawes a gafodd ei thrywanu i farwolaeth mewn ystafell ddosbarth ddoe wedi mynychu gwasanaeth eglwys er cof amdani.
Mae bachgen 15 mlwydd oed yn parhau i fod yn y ddalfa yn dilyn marwolaeth yr athrawes Sbaeneg Ann Maguire, 61, yng Ngholeg Catholig Corpus Christi yn Leeds fore ddoe.
Mae archwiliad post mortem wedi cadarnhau ei bod wedi marw ar ol cael ei thyrwanu sawl gwaith.
Y bore yma, daeth tua 150 o bobl ynghyd yn Eglwys Corpus Christi, sydd wedi’i gysylltu â’r ysgol ble bu’r athrawes yn dysgu am fwy na 40 mlynedd.
Roedd nifer o gyn ddisgyblion yr athrawes yno ond doedd disgyblion presennol yr ysgol ddim yn bresennol gan fod yr ysgol wedi agor yn ôl yr arfer heddiw.
‘Diwrnod trist’
Tu allan i’r eglwys, dywedodd Monsignor John Wilson, gweinyddwr apostolaidd yr esgobaeth: “Roedd y gynulleidfa eisiau gweddïo dros, a thalu teyrnged, i athrawes sydd wedi bod yn un o hoelion wyth y gymuned hon dros y 40 mlynedd diwethaf.
“Felly mae’n ddiwrnod trist. Diwrnod i oedi, diwrnod o sioc, diwrnod o alar.”
Ychwanegodd bod yr awdurdod lleol, yr heddlu ac asiantaeth Gofal Catholig, yn yr ysgol yn cynnig cymorth.
Dywedodd hefyd bod plant yr ysgol mewn sioc, fel pawb arall, ac yn ceisio deall beth ddigwyddodd ddoe, ond roedd yn cytuno gyda’r penderfyniad i agor yr ysgol heddiw. Mae ’na feirniadaeth wedi bod o’r penderfyniad i agor yr ysgol heddiw.
Meddai: “Petai’r ysgol heb agor heddiw, byddai llawer ohonynt wedi bod ar eu pennau eu hunain a dyw ymdopi gyda’r math yma o wybodaeth wrth ein hunain ddim yn dda.”
Credir mai marwolaeth Ann Maguire yw’r tro cyntaf i athro gael ei drywanu i farwolaeth mewn ystafell ddosbarth yn y DU a hi yw’r athrawes gyntaf i gael ei lladd mewn ysgol ers cyflafan Dunblane yn 1996.