Y Canghellor George Osborne
Roedd twf yr economi yn y DU yn arafach na’r disgwyl yn chwarter cynta’r flwyddyn, yn ôl ffigurau swyddogol heddiw.

Roedd yr economi wedi tyfu 0.8% yn y pedwar mis cyntaf eleni.

Roedd disgwyl i Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) dyfu 0.9% ond roedd gostyngiad mewn cynhyrchiant yn y diwydiant glofaol a chloddio a thrydan a nwy wedi effeithio’r ffigwr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Serch hynny roedd  y diwydiant cynhyrchiant wedi tyfu 1.3%, y twf mwyaf ers bron i bedair blynedd.

Ar ddechrau 2014, amcangyfrifir bod y sector adeiladu wedi tyfu dim ond 0.3% a hynny oherwydd stormydd a glaw trwm ym mis Ionawr a Chwefror.

Ond yn ôl yr ONS, nid yw’r tywydd wedi cael effaith sylweddol ar dwf GDP yn ystod y cyfnod yma.

‘Dim llaesu dwylo’

Dywedodd y Canghellor George Osborne: “Mae’r ffigurau heddiw yn dangos bod economi Prydain yn gwella – ond ni allwn gymryd hynny’n ganiataol. Mae’n rhaid i ni barhau i weithio drwy’r cynllun economaidd hir dymor.

“Am y tro cyntaf ers degawd mae tri phrif sector yr economi – cynhyrchiant, gwasanaethau ac adeiladu – wedi tyfu o leiaf 3% dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae effaith y dirwasgiad yn dal i’w deimlo, ond mae’r seiliau ar gyfer twf yr economi bellach mewn lle.”

‘Dim cyfiawnhad dros godi cyfraddau llog’

Ond wrth ymateb i’r ffigurau dywedodd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) nad yw’r twf yn yr economi yn ddigon i gyfiawnhau codi cyfraddau llog unwaith eto.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC Frances O’Grady: “Dyma’r math o dwf y gallen ni fod wedi ei gael dwy neu dair blynedd yn ôl petai’r Llywodraeth heb lesteirio’r twf drwy gyflwyno toriadau a rhewi cyflogau.

“Er bod y ffigurau yma i’w croesawu mae twf yr economi yn parhau i fod yn is nag oedd yn 2008  ac nid yw’r rhan  fwyaf o bobl wedi gweld llawer o fudd o’r twf yma hyd yn hyn.”