Un o drenau prosiect HS2
Fe fydd gwaith ar brosiect rheilffordd gyflym HS2 yn dechrau yn 2017 yn ôl y disgwyl, meddai’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Patrick McLoughlin, a hynny er gwaetha ymdrech gan 33 o Geidwadwyr yn y Senedd neithiwr i geisio atal y cynllun.

Cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, fu’n arwain y gwrthryfel yn y Senedd yn erbyn y cynllun gwerth £50 biliwn a fydd teithio drwy ardal y Chilterns yn ei hetholaeth. Mae hi wedi mynnu y bydd hi’n cadw llygad barcud ar y prosiect wrth iddo gael ei drafod yn y Senedd.

Roedd gwelliant Cheryl Gillan wedi cael cefnogaeth 32 o ASau Ceidwadol.