Nigel Farage, arweinydd UKIP
Mae ymchwil newydd wedi dangos y bydd hunaniaeth genedlaethol yn cael dylanwad ar sut mae pobl yn pleidleisio yn yr etholiad Ewropeaidd fis nesaf.

Yn ôl yr ymchwil, mae cefnogaeth i UKIP yn llawer cryfach yn Lloegr nag ydyw yng Nghymru neu’r Alban. Ond meddai’r Athro Richard Wyn Jones bod UKIP ar y trywydd iawn i ennill ASE yng Nghymru hefyd.

Awgrymodd yr arolwg y bydd UKIP yn herio Llafur i ennill y gyfradd fwyaf o bleidleisiau yn Lloegr yn etholiadau Senedd Ewrop ar 22 Mai.

Llafur ar y blaen yng Nghymru

Yng Nghymru, mae cefnogaeth i Lafur bron ddwywaith y lefel o gefnogaeth i UKIP, gyda’r arolwg yn awgrymu y bydd 39% o bleidleiswyr yn cefnogi Llafur o’i gymharu â’r 20% a ddywedodd y byddent yn pleidleisio o blaid UKIP.

Roedd 18% o bleidleiswyr Cymru a holwyd fel rhan o’r arolwg yn bwriadu pleidleisio i’r Torïaid, gyda 11% yn cefnogi Plaid Cymru a 7% yn cefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd 29% o bobl Lloegr yn bwriadu pleidleisio dros blaid Nigel Farage, 30% i Lafur, 22% i’r Ceidwadwyr a 11% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond yn yr Alban, dim ond un o bob 10 o’r rhai a holwyd a ddywedodd y byddent yn pleidleisio i UKIP, o’i gymharu â 33% sy’n bwriadu pleidleisio i’r SNP a 31% a ddywedodd y byddent yn cefnogi Llafur.

Roedd 12% o’r rhai a holwyd yn yr Alban am bleidleisio dros y Ceidwadwyr, tra bod y gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 7%.

Cefnogaeth i’r UE

Mae cefnogaeth i’r Undeb Ewropeaidd ar ei uchaf yn yr Alban, gyda 48% o’r rhai a holwyd i’r yn dweud y byddent yn pleidleisio i aros yn yr UE pe bai refferendwm. Mae hyn o’i gymharu â 39% yng Nghymru a 37% yn Lloegr.

Pobl Lloegr oedd fwyaf Ewro-sgeptig, gyda 40% o bobl yn dweud y byddent yn pleidleisio i adael yr UE pe bai refferendwm yn cael ei gynnal, o’i gymharu â 35% yng Nghymru a 32% yn yr Alban.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Ganolfan yr Alban ar Newid Cyfansoddiadol ym Mhrifysgol Caeredin, ynghyd â Phrifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR).

Cafodd cyfanswm o 3,695 o bobl yn Lloegr eu holi ar gyfer yr ymchwil – a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) – yn ogystal â 1,014 yn yr Alban a 1,027 o bobl yng Nghymru.

‘UKIP yn dod i’r brig’

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a chydawdur yr ymchwil: “Er bod enw UKIP – Plaid Annibyniaeth y DU – yn awgrymu ei fod wedi’i anelu at y rhai sydd â hunaniaeth Brydeinig, mae ein hymchwil yn dangos fod gan y blaid fwy o gefnogaeth ymysg pobl sy’n nodi eu bod yn fwy Saesnig na Phrydeinig.

“Erbyn hyn, mae siawns sylweddol y bydd UKIP yn dod i’r brig yn yr etholiad Ewropeaidd yn Lloegr. Fodd bynnag, mae UKIP hefyd ar y trywydd iawn i ennill ASE yng Nghymru, os yw canlyniadau’r ymchwil hwn yn cael ei ailadrodd ar 22 Mai.

“Ni fydden nhw’n  debygol o ennill ASE yn yr Alban a byddai canlyniad o’r fath yn tynnu sylw at y gwahaniaethau gwleidyddol rhwng gwledydd Prydain. “