Corwynt
Mae adroddiadau bod o leiaf 11 o bobl wedi marw mewn stormydd difrifol yn nhaleithiau deheuol yr Unol Daleithiau dros nos.

Mae’n debygol iawn y bydd y nifer hwnnw’n codi a gallai rhagor fod wedi eu dal yn gaeth o dan adeiladau sydd wedi dymchwel ond nid yw’r gwasanaethau brys wedi llwyddo i gyrraedd rhai ardaloedd hyd yma.

Mae corwyntoedd  wedi dinistrio cartrefi a busnesau wrth deithio trwy daleithiau Alabama a Mississippi.

Mae’r corwyntoedd yn rhan o system o dywydd garw sydd wedi lladd o leiaf 26 o bobl  dros y deuddydd diwethaf.

Mae degau o filoedd o bobl heb drydan yn Alabama, Kentucky, a Mississippi ac mae’r Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol yn rhybuddio y bydd mwy o gorwyntoedd trwy gydol y nos yn Alabama.

Mae’r stormydd diweddaraf yn dod ddiwrnod ar ôl i gorwynt oedd hanner milltir o led deithio am 80 milltir, trwy dref Little Rock, Arkansas, gan ladd o leiaf 15 o bobl.