Mae streic gan weithwyr ar drenau tanddaearol Llundain yn achosi trafferthion i deithwyr y bore ma ac mae disgwyl i’r problemau barhau tan wythnos nesaf.

Roedd aelodau o undeb yr RMT wedi cerdded allan o’u gwaith am 48 awr o 9yh neithiwr mewn protest yn erbyn cynlluniau i gael swyddfeydd tocynnau ar y Tiwb.

Fe fydd gwasanaethau yn dechrau’n hwyrach ac yn gorffen yn gynt yn ystod y streic a bydd rhagor o weithredu am dridiau o 9yh ddydd Llun nesaf.