Carwyn Jones
Bydd undeb Unsain heddiw’n cyflwyno deiseb i Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd bod yr awdurdod wedi penderfynu peidio bod yn rhan o system o drafod cyflogau ar y cyd yn genedlaethol.

Mae’r ddeiseb, sy’n cynnwys bron i 2,000 o lofnodion, yn galw ar y cyngor i newid eu meddwl ac yn ffurfio rhan o ymgyrch Unsain sy’n gwrthwynebu cynlluniau’r Cyngor i atal unrhyw godiad cyflog ar gyfer ei weithlu eleni, ar wahân i gynnydd o 1% ar gyfer y ddwy radd gyflog isaf.

Fel arfer mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn trafod codiadau cyflog gyda’r undebau.

Eleni mae’r cynghorau i gyd, ar wahân i Gyngor  Sir Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cynnig codiadau o 1% i bob aelod o staff gydag ychydig mwy i’r rhai ar y cyflogau isaf.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, sy’n AC dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr, hefyd wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn fodlon cwrdd â’r Cyngor ac undebau er mwyn ceisio datrys yr anghydfod am gyflogau.

‘Agor y drws i gyflogau rhanbarthol’

Meddai Unsain  eu bod nhw wedi gwahodd arweinydd y cyngor, Y Cynghorydd Nott, i dderbyn y ddeiseb, ond ei fod o wedi gwrthod.

Dywedodd Jane Iles, ysgrifennydd cangen Unsain ym Mhen-y-bont ar Ogwr bod pobl yn haeddu gwell ac y byddai’r penderfyniad yn agor y drws i gyflogau rhanbarthol.

Meddai Jane Iles: “Os fydd y  cyngor yn bwrw ‘mlaen â’r cynlluniau hyn, yna byddant yn achosi dyfodol o dlodi ar nifer o’r gweithlu, yn ogystal ag agor y drws i gyflogau rhanbarthol.

“Gweithwyr y Cyngor fydd a’r cyflogau isaf yng Nghymru o ganlyniad i’r penderfyniad hwn, ac mae ein haelodau yn haeddu gwell.

“Ni fydd Unsain yn ildio ar y mater hwn. Byddwn yn parhau i ymladd dros y gweithlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yr ydym yn annog y cyngor i ailystyried eu cynigion cyflog peryglus ac annheg ar unwaith.”