Bachgen sy'n dioddef o asthma
Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cynlluniau i wella gofal ar gyfer pobl sydd â chlefydau anadlu a phroblemau gyda’r ysgyfaint heddiw.
Mae’r cynlluniau yn rhan o strategaeth pum mlynedd y Llywodraeth ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac fe fyddan nhw’n ymdrin ag ystod eang o gyflyrau sy’n effeithio’r ysgyfaint ac anadlu, fel asthma.
Clefyd yr ysgyfaint sy’n gyfrifol un o bob saith o’r holl farwolaethau yng Nghymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd pobl o bob oed yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol o beryglon ysmygu a bydd disgwyl iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb personol dros y ffordd maen nhw’n byw i leihau’r risg o gael problemau gyda’r ysgyfaint.
Ond pan mae rhywun yn cael problemau anadlu neu gyda’r ysgyfaint, fe allan nhw ddisgwyl y gofal gorau fel y bydd ansawdd eu bwyd yn gwella cymaint ag sy’n bosibl.
Bydd y cynlluniau yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddarach heddiw.