Anne Maguire
Mae bachgen 15 oed yn parhau i fod yn y ddalfa bore ma ar ôl i athrawes gael ei thrywanu i farwolaeth mewn dosbarth ddoe.

Cafodd yr athrawes Sbaeneg, Anne Maguire, 61 oed, ei thrywannu droeon o flaen disgyblion eraill yng Ngholeg Catholig Corpus Christi yn Leeds fore ddoe.

Mae disgwyl i’r ysgol agor yn ôl yr arfer bore ma.

Roedd Anne Maguire wedi bod yn athrawes yn yr ysgol ers 40 mlynedd ac yn uchel iawn ei pharch.

Credir mai dyma’r tro cyntaf i athrawes gael ei thrywannu i farwolaeth mewn dosbarth ym Mhrydain, a’r athrawes gyntaf i gael ei lladd mewn ysgol ers cyflafan Dunblane yn 1996.

Yn ôl rhai o’r disgyblion, cafodd Anne Maguire ei thrywannu wrth iddi ddysgu dosbarth Sbaeneg ym mlwyddyn 11.

Dywedodd rhai disgyblion eu bod nhw wedi clywed sgrechfeydd wrth i staff ruthro i’r dosbarth i’w chynorthwyo a rhwystro’r ymosodwr.

Neithiwr daeth cannoedd o ddisgyblion, cyn ddisgyblion a rhieni i Eglwys Corpus Christi drws nesaf i’r ysgol er mwyn cynnau canhwyllau.

Mae nifer o ddisgyblion wedi disgrifio Anne Maguire fel athrawes “ysbrydoledig”.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron bod y digwyddiad yn “arswydus”.

“mae ein meddyliau gyda theulu’r athrawes, yr ysgol a’r holl ddisgyblion sy’n astudio yno. Fe fyddwn yn gwneud popeth y gellir ei wneud i helpu’r ysgol i ddarganfod beth ddigwyddodd. Rwy’n credu y bydd yn rhaid aros i’r ymchwiliad ddod i ben i ddarganfod beth yn union ddigwyddodd.”