Mae mwy o bobol nag erioed o’r blaen yng Nghymru a Lloegr yn byw yn hirach ar ôl cael gwybod eu bod yn dioddef o ganser, yn ôl ymchwil newydd.
Ond mae Prydain yn dal yng nghysgod gweddill gwledydd Ewrop o ran y niferoedd sy’n goroesi canser, gan fod meddygon teulu yn methu symptomau, yn rhoi diagnosis hwyr neu fod y driniaeth yn llai effeithiol.
Yn ôl Cancer Research UK, mae bron i 50% o bobol yng Nghymru a Lloegr yn byw 10 mlynedd yn hirach nag oedden nhw 40 mlynedd yn ôl.
Ac mae’r arbenigwyr yn dweud fod angen ffordd newydd o edrych ar y clefyd, am ei fod wedi newid gymaint ers y 1970au.
Dywedodd Dr Harpal Kumar, prif weithredwr Cancer Research UK: “Roeddem ni’n arfer meddwl am ganser fel dedfryd o farwolaeth.
“Ond erbyn hyn, mae bron i hanner y cleifion yn byw o leiaf 10 mlynedd ar ôl cael gwybod eu bod yn dioddef.
“Gyda’r gwelliant sydd wedi ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf, rwy’n credu ei bod hi’n amser i ni newid y ffordd rydym ni’n delio hefo canser.”
Ffigyrau
Mae’r rhai sy’n byw yn hirach gan ddioddef o ganser y croen wedi cynyddu o 46% i 89% a’r rhai sy’n dioddef o ganser y ceilliau wedi cynyddu o 69% i 98%. Mae 78% o ferched bellach yn byw am 10 mlynedd ar ôl cael gwybod bod ganddyn nhw ganser y fron.
Ond mae’r rhai sy’n dioddef o ganser yr ysgyfaint, y llwnc, yr ymennydd neu’r pancreas yn parhau i fod hefo cyn lleied a 15% o siawns o fyw.
Mae Cancer Research UK yn bwriadu gwario £525 miliwn ar ymchwil yn ystod y 5-10 mlynedd nesaf ac yn gobeithio y bydd tri chwarter y rhai sy’n dioddef o ganser yn byw yn hirach na 10 mlynedd.