Cefin Roberts
Mi fuodd y Cymry yn gwneud argraff go iawn yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yr wythnos diwethaf, gan ddod i’r brig yn nifer o’r prif gystadlaethau yn y Deri yng Ngogledd Iwerddon.

Un o gorau Glanaethwy gafodd eu dewis fel Côr yr Ŵyl, ac yn ôl y delynores a’r gantores werin Gwenan Gibbard, roedd y gynulleidfa wedi rhyfeddu gyda thalentau’r Cymry.

Mae chwe gwlad yn cymryd rhan yn yr Ŵyl Ban Geltaidd – Cymru, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Llydaw ac Ynys Manaw – ac mae’n gyfle i gystadlu’n anffurfiol a dathlu cerddoriaeth Geltaidd.

Mae’n rhedeg dros chwe diwrnod gyda nosweithiau yng ngofal gwahanol wledydd gan roi cyfle i flasu a thrafod y gwahanol ddiwylliannau a thraddodiadau.

‘Agoriad llygad’

Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal yng Ngogledd Iwerddon ac yn ôl Cefin Roberts, arweinydd corau Glanaethwy, roedd yn agoriad llygad cael bod mewn dinas sydd ynghlwm a gymaint o hanes.

“Does dim byd gor-swyddogol am yr ŵyl, mae hi’n wahanol i be’ ydan ni wedi arfer hefo’r Eisteddfod – mae’i ffurf hi yn llawer iawn mwy cartrefol, sy’n chwa o awyr iach,” meddai.

“Mae Deri yn dref mor hanesyddol ag ro’n i’n gwybod y basa’r aelodau yn cael profiadau a siwrna’ dda o ran addysg.

“Roedd o’n agoriad llygad iddyn nhw – heb sôn am y cystadlu a’r holl bobol newydd wnaethon ni’u cyfarfod.”

‘Cyd-ganu hefo cyd-Geltiaid’

Yn ôl y delynores Gwenan Gibbard, a fu’n cystadlu ac yn cynrychioli Cymru ar y panel beirniadu:

“Roedd ’na griw o’r Albanwyr wedi dysgu pob gair o Calon Lan ac Oes Gafr Eto ac wedi gwneud ymdrech arbennig eleni i ddysgu’r gan Eryr Pengwern.

“Mae’n braf ofnadwy cael cyd-ganu, gwneud ffrindiau newydd a dod i adnabod ein cyd-Geltiaid yn well.”

Dyma ddetholiad o lwyddiannau’r Cymry:

Grŵp Gwerin – Gwenan Gibbard, Dylan Cernyw, Catrin Thomas, Efan Williams, Esyllt Tudur.

Pedwarawd – Steffan Hughes, Mared Thomas, Llyr Price, Gwenith Evans.

Alaw Werin – Esyllt Tudur (2il)

Côr cymysg  – 1af Côr Aethwy

Côr ieuenctid – Côr Glanaethwy

Côr merched – Côr Glanaethwy

Côr unsain – 1af Hogia’ Glanaethwy

Côr Cymysg hefo cyfeiliant: Côr Glanaethwy

Côr yr Ŵyl: Hogia’ Glanaethwy