Lois Jones, sy'n chwarae Jan yn 35 Diwrnod
Rhybudd: Mae’r darn yma’n trafod chweched bennod ‘35 Diwrnod’ ar S4C. Peidiwch â’i ddarllen os nad ydych chi wedi gwylio’r bennod.

Ciron Gruffudd sydd wedi bod yn gwylio…

Ydych chi erioed wedi cwyno am bum wythnos bod dim byd yn digwydd mewn rhaglen deledu dim ond i lwyth o bethau gael eu datgelu mewn un bennod sy’n ymylu ar yr hurt? Ges i’r profiad yna’n gwylio’r bennod ddiweddaraf o ’35 Diwrnod’.

Cyn sôn am y bennod, rhaid i mi dynnu sylw at y sylwadau i’r blog yr wythnos diwethaf gan Huw ac Al. Mae’r ddau’n credu mod i wedi bod yn rhy feirniadol o’r gyfres hyd yn hyn ac yn meddwl mai’r cynildeb yw un o’i phrif gryfderau hi.

Efallai fy mod i’n euog o fod yn blentyn yr oes ddigidol sy’n disgwyl pethau ar unwaith ond eto, wedi gwylio pennod 6, dwi’n meddwl mai un o wendidau mawr y gyfres yw ei bod hi ddim digon cymhleth i gynnal y fath gynildeb dros 8 bennod.

Mi o’n i’n gobeithio y byddai’r cysylltiadau rhwng trigolion ystâd Crud yr Awel yn cael eu datgelu’n araf ac y byddai rhan gan bawb i’w chwarae yn y rheswm pam fod Jan wedi symud i’r stad. Ymddengys bod pethau’n dipyn symlach na hynny yn y diwedd.

Diolch i Al hefyd am dynnu fy sylw i at y ffaith mai’r dyn oedd gyda Jan ar ddechrau pennod pump oedd yr un dyn a roddodd y cyffuriau i Huw ar ddechrau pennod un. Dim bod ots rŵan gan ein bod ni’n gwybod pwy yw pawb erbyn hyn.

Jan

Mewn un olygfa, rydyn ni wedi dod i ddeall mai ei rheswm hi dros symud i’r stad oedd er mwyn dial ar Richard; mai chwaer Jan oedd y ferch laddodd ei hun ar ôl cael perthynas gydag o; a bod Jan yn gwneud hyn i gyd oherwydd ei heuogrwydd dros fethu ag amddiffyn ei chwaer rhag eu tad pan oedden nhw’n blant.

Oes rhywun arall yn meddwl bod hynny wedi ei ddatgelu yn eilradd bron a’i fod o heb gael y sylw haeddiannol?  Bechod, achos mi fyddai ymchwilio i euogrwydd Jan wedi gallu bod yn ddifyr ac yn bendant wedi rhoi mwy o gig a gwaed i’r cymeriad.

Er bod hi wedi methu lladd Richard gyda’r gwn – dyw hi ddim am stopio ceisio dial arno – ac mae hynny’n gosod pethau’n ddigon del cyn y ddwy bennod olaf.

Ond dwi ddim yn meddwl mai’r gacen wenwynig fydd yn gyfrifol am ei marwolaeth.

Y Teulu Jenkins

Mae perthynas Richard a Sali – y ffordd mae’r ddau’n amau ei gilydd wrth fynd y tu ôl i gefnau’r naill ar llall yr un pryd – yn fy atgoffa i o be ddywedodd y gwleidydd Donald Rumsfeld unwaith:

“Because as we know, there are known knowns; there are things that we know that we know. We also know there are known unknowns; that is to say we know there are some things we do not know. But there are also unknown unknowns, the ones we don’t know we don’t know.”

A dweud y gwir, mae’r dyfyniad yna’n ddisgrifiad teg o’r holl gyfres.

Dwi’n siŵr bod y deintydd mae Sali’n cael perthynas honedig gydag o wedi cael sawl cyfle i lenwi cavity, neu ddau, dros yr wythnosau diwethaf tra bod Richard fel ci bach yn ysu am sylw Jan.

Doedd Richard ddim yn deall pa mor agos oedd o at gael ei ladd yn yr un modd a chariad athletwr amlwg, ond pan gafodd o’r cyfle i fod yn onest am ei berthynas â chwaer Jan, wnaeth o ddim. Richard, Richard, Richard, be wnawn ni hefo chdi dŵad?

Dwi hefyd yn meddwl mod i wedi dyfalu pwy oedd yn gyfrifol am blacmelio Gruff. Yw hi’n bosib mai Cerian, merch Richard a Sali, wnaeth hynny i ddial oherwydd ei bod hi’n meddwl bod llythyr gan Beti wedi hysbysu ei mam am berthynas ei thad gyda’i gyd-weithiwr a dinistrio’r teulu? Be da chi’n feddwl?

Y Morisiaid

Os oes un peth mae pob sied gwerth ei halen ei angen, yna pot jam anhysbys yn llawn powdr gwyn gyda label gwenwyn wedi cael ei sgwennu â llaw yw hynny. Dwi bron iawn a gwneud hynny hefo’r siwgr yn ein tŷ ni, dim ond i weld beth fydd ymateb pobl pan fydda i’n cynnig paned iddyn nhw.

Er ei dirywiad meddyliol, mae un peth wedi ei gerfio ar lech calon Beti. Sut mae gwneud Victoria sponge. Ond, wrth gwrs, mae Jan wedi derbyn cacen ganddi o’r blaen ac aeth hwnnw yn syth i’r bin. Beth fydd tynged y gacen yma?

Ond os nad Beti wnaeth anfon llythyr at Sali, pwy wnaeth yn union? Ac at bwy mae Beti wedi anfon llythyr dienw yn cyhuddo rhywun o rywbeth os yw hi wedi gwneud hynny o’r blaen?

Dwi’n meddwl mai o’i herwydd hi wnaeth yr heddlu chwilio tŷ Huw a Caroline am y cyffuriau.

Ac er bod Ben yn edrych mewn gwell hwyliau rŵan, mae rhywbeth mawr o’i le gyda’r dyn o hyd os ydi o’n meddwl mai cyhuddo Richard o dwyllo ei dad yw’r peth pwysicaf i wneud yn syth ar ôl iddo yrru dros Tony.

A dweud y gwir, roedd rhywbeth yn eitha’ doniol am yr holl olygfa yna gyda Richard a Tony fel dau geiliog dandi pob ochr i’r car. Doedd yr hiwmor ddim yn bwrpasol mae’n siŵr ond roedd o’n teimlo fel golygfa agoriadaol Casualty pan da ni’n gwybod bod rhywbeth am ddigwydd ac mae rhywun am gael ei frifo’n ddifrifol.

Huw a Caroline James… a Bobo

Da ni wedi clywed tipyn am Bobo dros yr wythnosau diwethaf ac roedd gen i lun yn fy meddwl o glown trist oedd wedi cael ei garcharu ar gam. Siom a gafwyd.

Mae gan Caroline fwy yn ei phen nag oeddwn i’n ei feddwl hefyd ac mae hi a’i brawd wedi rhoi Huw druan mewn twll dwfn iawn.

Y peth gorau all Huw ei wneud yw ei heglu hi gyda’r plant oddi wrth ei wraig a’i brawd, ond mae rhywbeth sy’n ei gadw yno. Ai cariad yw hynny? Na, dwi’m yn meddwl hynny chwaith.

Ond gyda dyfodiad Bobo, a Huw yn parhau i feddwl fod gan Jan rhywbeth i’w wneud gyda’r awdurdodau oedd yn agos iawn i ddarganfod cyffuriau yn ei gartref, fyswn i’m yn synnu  bod gan un o drigolion y tŷ yma rywbeth i’w wneud gyda marwolaeth Jan.

Tony, Pat a Linda

Cawsom ni’m llawer o Tony yn y bennod yma. Ond er hynny, fe gafodd o ddigon o amser ar y sgrin, rhwng mynd am drip golf a cholli ei goesau, i fygwth Richard.

Dwi’n dechrau amau os wnaeth o dreisio Jan hefyd. Dwi’m yn amddiffyn y dyn cofiwch – dwi yn meddwl ei fod o wedi ei churo hi ond dwi ddim mor siŵr aeth o mor bell â’i threisio. Wedi’r cwbl, welsom ni ddim beth ddigwyddodd a dyw Jan heb ddweud dim byd…

Ond fe gawsom ni tip arbennig gan Tony ar sut mae serenadu merch. Wrth roi anrheg i ferch, gwna’n siŵr dy fod di’n dweud faint mae’r anrheg wedi ei gostio. Mi fydd hi wrth ei bodd!

Mae’n debyg bod Pat yn genfigennus iawn o Roger y cyfarwyddwr hefyd. O’n i’n amau ei bod hi mewn cariad a Linda ac mae rhyddid diweddar yr actores yn amlwg wedi gwneud iddi feddwl, a chwilio, am fwy na chorrach bach blin a milain fel Tony.

Moment yr wythnos

A fyddai’n bosib i rywun ddysgu’r gwahaniaeth rhwng crayons a ffelt pens i Cerys os gwelwch yn dda?

Hefyd, oes swyddog prawf gwaeth yng ngwledydd cred na’r un mae Mark yn cael perthynas gyda’i? Yr holl weiddi am ynnau yn y tŷ, a sylwodd hi ddim – neu yw hynny eto i ddod?