Manic Street Preachers
Mae’r banc roc o Gymru, Manic Street Preachers, wedi cyhoeddi eu bod am ryddhau albwm newydd sbon ym mis Gorffennaf eleni.
Cafodd yr albwm Futurology ei recordio yng Nghaerdydd a Berlin ac mae’n cynnwys artistiaid gwadd eraill o Gymru gan gynnwys Georgia Ruth, Cian Ciarán o’r Super Furry Animals, Cate Le Bon a H Hawkline.
Bydd yn cael ei ryddhau ar 7 Gorffennaf, 2014.
Band roc o’r Coed Duon yn Ne Cymru yw Manic Street Preachers, sy’n cynnwys y prif leisydd James Dean Bradfield, y baswr Nicky Wire a Sean Moore ar y drymiau. Maen nhw wedi bod gyda’i gilydd ers 1986 ac wedi rhyddhau 11 albwm.
Cafodd eu halbwm diwethaf, Rewind the Film, ei chyhoeddi ym mis Medi’r llynedd, gan gyrraedd rhif pedwar yn siartiau albwm Prydain.