Mae Banc Brenhinol yr Alban (RBS) wedi datgelu y bydd £576 miliwn yn cael ei roi mewn taliadau bonws i’w staff er gwaetha’r ffaith eu bod nhw wedi gwneud colledion blynyddol o £8.2 biliwn.
Mae’r taliadau bonws 15% yn llai nag yn 2012 ond mae’n cynnwys taliadau o £237 miliwn ar gyfer bancwyr yn yr adran fuddsoddi.
Mae’r Llywodraeth yn berchen ar 80% o’r banc ac mae’r colledion wedi cynyddu’n sylweddol o £5.3 biliwn yn 2012, o ganlyniad i gyfres o ddirywion.
Mae’r prif weithredwr Ross McEwan wedi amlinellu cynlluniau i wneud y banc yn “llai, yn symlach ac yn glyfrach” drwy leihau nifer yr adrannau o saith i dri. Ond mae wedi rhybuddio y bydd staff yn colli eu swyddi.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi beirniadu RBS gan ddweud bod y banc “mewn categori gwahanol” ac y dylai ffrwyno taliadau bonws nes bod y banc yn gallu sefyll ar ei draed ei hun.