Alex Salmond
Mae Eglwys Yr Alban wedi dweud y dylai unrhyw ddadl am annibyniaeth i’r Alban ganolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol ac “nid dim ond arian a chyfansoddiadau.”

Yn adroddiad yr Eglwys – neu’r Kirk – ‘Dychmygu Dyfodol Yr Alban’, maen nhw’n galw am ddadl gynhwysfawr ar yr holl faterion allweddol yn y ddadl tros ac yn erbyn annibyniaeth.

Yn ôl y papur newydd ‘The Scotsman’, mae’r Eglwys hefyd yn galw am gyfyngu’r farchnad rydd a chynyddu trethi er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl yr adroddiad, roedd 900 o bobol wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ddyfodol y wlad.

Un o’r prif bwyntiau trafod hyd yn hyn yw economi’r wlad, gyda dadleuon o blaid ac yn erbyn cadw’r bunt sterling pe bai’r Alban yn mynd yn annibynnol.

‘Byddai’n rhaid i’r Alban adael y BBC’

Ddoe, fe ddywedodd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth Prydain, Maria Miller y byddai’n rhaid i’r Alban adael y BBC pe bai’n mynd yn annibynnol.

Mewn cynhadledd am y cyfryngau yn Rhydychen, dywedodd Maria Miller: “Diben y bleidlais yw, a yw’r Alban am aros yn rhan o’r DU?

“Os nad ydyn nhw am wneud hynny, mae’n bleidlais o blaid gadael sefydliadau’r DU ac mae’r BBC yn un ohonyn nhw.”

Eisoes, mae Prif Weinidog Yr Alban, Alex Salmond wedi addo sefydlu gwasanaeth darlledu annibynnol pe bai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yn y refferendwm ym mis Medi.

Yn 2012, fe ddywedodd nad yw’r cyfryngau eto wedi addasu i fywyd ôl-ddatganoli.

Ychwanegodd y byddai’r Alban, trwy sefydlu gwasanaeth annibynnol newydd, yn hawlio rhywfaint o ffi’r drwydded deledu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Yr Alban fod y ddadl ddiweddaraf ynghylch darlledu yn Yr Alban yn “dangos nad yw’r Torïaid wedi dysgu dim o’r feirniadaeth ar ôl pregeth hunandybus George Osborne am y bunt”.