Cyngor Sir Gar
Fe fydd cynghorwyr Sir Gâr yn cynnal cyfarfod heddiw i drafod cynnig o ddiffyg hyder yn eu harweinwyr.

Mae’n dilyn dau adroddiad damniol gan Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ionawr oedd yn dweud bod uwch-swyddogion cynghorau Sir Gâr a Sir Benfro wedi derbyn taliadau “anghyfreithlon”.

Roedd Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Benfro wedi rhoi taliadau ariannol i’w prif weithredwyr a swyddogion eraill, yn hytrach na chyfraniadau pensiwn, am resymau treth.

Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James wedi  cytuno i gamu o’r neilltu am y tro wrth i’r heddlu yn Swydd Gaerloyw ymchwilio i’r taliadau. Ond mae’n mynnu nad yw  wedi gwneud dim o’i le.

Mae aelodau Plaid Cymru o Gyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyflwyno’r cynnig o ddiffyg hyder mewn tri chynghorydd sef arweinydd y Cyngor, Kevin Madge, y cyn-arweinydd Meryl Gravell a’r dirprwy arweinydd presennol Pam Palmer.

Roedd y tri yn aelodau o Fwrdd Gweithredol y cyngor pan gafodd y penderfyniadau ynglŷn â’r taliadau eu gwneud.

Yn ogystal â thrafod y cynnig fe fydd y cyngor hefyd yn trafod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Mae arweinydd y cyngor Kevin Madge wedi dweud y bydd yn “ryddhad” i rannu’r wybodaeth gyda’r cynghorwyr eraill a’r cyhoedd ac mae wedi dweud y bydd y drafodaeth yn “agored ac onest” ynghylch y materion hyn.

Mae’r cyfarfod yn un agored a bydd modd gwylio ar wefan y cyngor www.carmarthenshire.gov.uk