Llys Ynadon Caerdydd
Fe fydd dirprwy brifathro, sydd wedi’i gael yn euog o sbecian rhywiol, yn ymddangos gerbron llys heddiw i wynebu rhagor o gyhuddiadau tebyg.
Fe fydd Gareth Williams, 47 oed, sy’n ddirprwy brifathro yn Ysgol Gyfun Glantaf, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd trwy gyswllt fideo.
Cafodd yr achos ei ohirio am 24 awr ddoe.
Mae’n wynebu 48 o gyhuddiadau, sy’n cynnwys 12 cyhuddiad o sbecian rhywiol, 34 cyhuddiad o greu delweddau anweddus a dau gyhuddiad o fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Mae e wedi’i atal o’i waith tra bod yr ymchwiliad a’r achos yn parhau.
Mae e eisoes wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad o sbecian ar ôl cael ei arestio fis diwethaf a’i gadw yn y ddalfa.
Mae chwech o’r cyhuddiadau o sbecian yn ymwneud â safle’r ysgol.
Mae’r ysgol wedi anfon llythyr at rieni’n esbonio’r cyhuddiadau pellach.