Jimmy Savile
Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi cymeradwyo cynllun iawndal ar gyfer y rhai a gafodd eu cam-drin gan Jimmy Savile.
Cafodd y cynllun ei gytuno rhwng ysgutorion Savile a chyfreithwyr sy’n cynrychioli’r rhai sy’n honni iddyn nhw gael eu cam-drin gan y cyflwynydd teledu.
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan Mr Ustus Sales mewn gwrandawiad yn Llundain.