Andrew Mitchell
Mae dau blismon fu’n gwasanaethu gyda Heddlu Llundain wedi colli eu swyddi tros ddadl ‘Plebgate’.
Cafodd Keith Wallis a James Glanville eu diswyddo am gamymddygiad difrifol, meddai Scotland Yard.
Cafodd Keith Wallis ei garcharu am 12 mis yn gynharach y mis hwn, ar ôl dweud celwydd ei fod e wedi clywed y ddadl rhwng Prif Chwip y Ceidwadwyr, Andrew Mitchell a’r heddlu.
Nid oedd James Glanville ar ddyletswydd yn ystod y ffrae yn Downing Street ond roedd yn gweithio’n ddiweddarach y noson honno. Roedd wedi trosglwyddo gwybodaeth i bapur newydd The Sun. Er iddo gael ei arestio fe benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddai unrhyw gamau troseddol yn cael eu cymryd yn ei erbyn.
Bu’n rhaid i Mitchell ymddiswyddo fel prif chwip yn dilyn yr helynt.
Cafodd ei gyhuddo o alw aelod o’r heddlu’n ‘pleb’ pan gafodd orchymyn i beidio seiclo y tu allan i Downing Street yn 2012.
Er iddo wadu defnyddio’r term ‘pleb’, fe gyfaddefodd ei fod e wedi rhegi a defnyddio iaith anweddus.