Blaenau Ffestiniog
Bydd Antur Stiniog yn agor canolfan gwybodaeth a siop nwyddau awyr agored ym Mlaenau Ffestiniog dros y penwythnos, gyda’r bwriad o greu gwaith a chyfleoedd hyfforddiant i bobol leol.
Sefydlwyd Antur Stiniog fel menter gymdeithasol yn 2007, er mwyn datblygu’r sector awyr agored mewn dull cynaliadwy er budd yr economi a thrigolion lleol.
Ers 2007 mae’r fenter wedi datblygu nifer o gynlluniau yn ardal Ffestiniog gan gynnwys y llwybrau beicio lawr allt yn Llechwedd sydd wedi denu dros 12,000 o feicwyr ar draws y byd. Bydd Pencampwriaeth Prydain hefyd yn dod i’r ardal ar Fawrth 29.
Mae’r cynlluniau yma bellach yn cyflogi 15 o bobol leol ac mae Antur Stiniog yn gobeithio creu mwy o gyfleoedd gwaith o fewn y cwmni yn ogystal â hyrwyddo iaith a diwylliant yr ardal.
‘Adnodd gwych i’r dref’
Dywedodd Helen Mcateer, rheolwr ‘Y Siop’ ei bod hi’n gyfnod cyffrous yn hanes Antur Stiniog:
“Bydd ‘Y Siop’ yn adnodd gwych i’r dref, gan greu gwaith a chyfleoedd hyfforddiant yn ogystal ag adnodd gwych i bobol leol ac ymwelwyr.
“Rwyf yn edrych ymlaen at agor y drysau a hyrwyddo pob dim sydd gan yr ardal wych yma i’w gynnig.”
Ac yn ôl Paul Thomas Cynghorydd Cyngor Sir Gwynedd, mae agoriad Y Siop yn creu linc naturiol rhwng datblygiadau Llechwedd a chanol y dref.
“Mae’r adeilad yn ganolog i ymwelwyr wrth iddyn nhw ddod oddi ar y trên ac fe fydd hwn yn creu adnodd newydd yn dilyn ymadawiad y ganolfan wybodaeth rhai blynyddoedd yn ôl.”
Bydd Y Siop yn agor ar 1 Mawrth yn Unedau 1 a 2 Y Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog gyda sesiynau blasu gweithgareddau awyr agored, gan gynnwys dringo, caiacio a theithiau trefol ar sgwâr Diffwys rhwng 10yb a 4yp.